Storm Eunice – y diweddaraf

Mae rhybudd coch yn ei le mewn rhannau o Gymru, sy’n golygu bod perygl i fywydau. Cewch chi’r diweddaraf yma

Mae mwy na 1,800 o gartrefi heb drydan fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 18) o ganlyniad i Storm Eunice.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch, sy’n golygu bod perygl i fywydau wrth i’r gwynt godi i gyflymdra o fwy na 90m.y.a. mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar hyd yr arfordir.

Daeth y rhybudd coch i rym am 7y.b., ac fe fydd yn ei le tan ganol dydd.

Mae rhybudd oren yn ei le ers 3y.b. ac fe fydd yn ei le tan 9 o’r gloch heno.

10:52

Mae’r RSPCA yn cynghori perchnogion anifeiliaid i lunio cynlluniau rhag ofn iddyn nhw gael eu heffeithio gan lifogydd.

Maen nhw’n annog pobol i symud anifeiliaid i dir uwch os oes llifogydd, neu symud anifeiliaid anwes tu mewn, a’u rhoi nhw fyny grisiau os yn bosib.

“Rydyn ni’n annog perchnogion anifeiliaid anwes i gadw llygad ar y rhagolygon tywydd eu hardal nhw, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau diogelwch eu hanifeiliaid,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA, Amy Ockelford.

“Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gynllun fel eich bod chi’n gwybod sut i gael eich teulu, ac eich anifeiliaid, allan o berygl pe bai llifogydd yn eich effeithio.

“Mae llifogydd yn codi’n sydyn felly byddwn ni’n annog pobol i weithredu’n gynnar, a pheidio byth roi eu hunain mewn perygl i helpu anifeiliaid ond, yn hytrach, galw ein tîm achub brys ar 0300 1234 999 am help.”

Logo RSPCA

Rhybudd ynghylch diogelwch anifeiliaid o ganlyniad i Storm Eunice

Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi canllawiau yn sgil y tywydd

10:29

Yn ôl Western Power Distribution, gallai ardal Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin fod heb drydan tan 1yp.

Maen nhw’n dweud bod peirianwyr yn ceisio datrys y sefyllfa ar hyn o bryd, ac wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra.

10:24

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi tudalen o rybuddion am lifogydd, gan rybuddio pobol i “fod yn barod”

10:15

Fe gewch chi’r diweddaraf am y ffyrdd drwy fynd i wefan Traffig Cymru, https://traffig.cymru/rhybuddion-traffig

10:11

10:02

Mae ffordd B4308 rhwng Ffwrnais a Farriers yn Sir Gaerfyrddin ynghau ar ôl i goeden gwympo.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio teithwyr i gadw draw.

09:54

Os oeddech chi wedi bwriadu teithio ar fferi, mae pedair taith Irish Ferries rhwng Abergwaun a Rosslare wedi’u canslo.

Mae Stena Line hefyd wedi canslo sawl taith rhwng Caergybi a Dulyn.

 

09:52

09:48

Mae ysgolion yn ardal Abertawe ynghau i ryw 36,000 o ddisgyblion, yn ôl arweinydd y Cyngor Sir.

Mae Rob Stewart wedi bod yn siarad â Sky News, gan ddweud bod gwersi’n parhau o bell.

Mae adeiladau megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymuned ynghau yn sgil y tywydd.

Mae’n dweud bod y rhybudd mewn grym yn y ddinas o ganlyniad i gyfuniad o law trwm, lefel afonydd yn uchel, llanw uchel a pheryglon Storm Eunice.

“Os yw pobol yn dewis mentro allan heddiw, cadwch draw o linellau arfordirol, cadwch draw o’n hafonydd, peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl, arhoswch gartref os gallwch chi, a gweithiwch o adref os oes modd.

“Mae hon yn sefyllfa beryglus iawn.”

09:43

Mae Pont Hafren yr M48 ynghau i’r ddau gyfeiriad, ac mae teithwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ail bont – neu Bont Tywysog Cymru.