Heb glywed Daniel Lloyd yn canu – a chael ei syfrdanu! – fyddai mam o Ynys Manaw heb barhau i ddysgu Cymraeg.
Ar ôl gwirioni â llais y canwr o Rosllannerchrugog, cafodd Graihagh Pelissier ei hysgogi i ddal ati â’r iaith a’i defnyddio tu allan i’r dosbarth.
Bellach yn aelod o Gôr y Pentan yn yr Wyddgrug, cartref Graihagh ers tua deuddeg mlynedd, mae hi hefyd yn aelod o grŵp dawnsio gwerin, gan gydio ymhob cyfle i ymarfer siarad Cymraeg.