Bradley Davies
Mae’r Gleision wedi cyhoeddi y bydd eu clo Bradley Davies yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor er mwyn ymuno â Wasps Llundain.

Davies yw seren rygbi rhyngwladol diweddaraf Cymru i gyhoeddi y bydd yn gadael y wlad am glwb tramor ar ddiwedd y tymor, wrth i’r rhanbarthau a’r Undeb Rygbi barhau i anghytuno ar arian a chystadlaethau.

Cyfarwyddwr rygbi presennol Wasps yw cyn-hyfforddwr y Gleision Dai Young, a gyflwynodd Bradley Davies i rygbi rhanbarthol yng Nghymru cyn iddo adael yn 2011.

Bydd Davies, sydd ar hyn o bryd allan ag anaf, yn gadael y rhanbarth ar ôl dod drwy system ieuenctid y Gleision a chwarae iddyn nhw 114 o weithiau ers ei gêm gyntaf wyth mlynedd yn ôl.

Mae’r clo o Lantrisant hefyd wedi ennill 42 cap dros Gymru, ac fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision Phil Davies y byddai colled fawr ar ôl y gŵr 27 oed.

“Mae Bradley wedi bod yn chwaraewr proffesiynol tu hwnt yn ystod ei gyfnod gyda’r Gleision,” meddai Phil Davies. “Mae’n chwaraewr tîm gwych, yn aelod poblogaidd o’r garfan ac wedi bod yn was ffyddlon i’r rhanbarth.

“Rydym ni’n dymuno’n dda iddo ef a’i deulu yn Llundain, ac rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiant wrth chwarae o dan Dai Young.”

Wrth gyhoeddi’r newyddion fe ddywedodd Bradley Davies ei hun ei fod yn edrych ymlaen at yr her newydd.

“Rwyf wedi bod gyda’r Gleision ers mod i’n 17 oed ac mae arnaf lawer o ddiolch i bawb yma,” meddai Davies. “Ond rwyf hefyd wedi cyffroi’n lân am chwarae mewn cynghrair newydd gyda chlwb newydd.”