Bydd Rhian Wilkinson, rheolwr newydd tîm pêl-droed menywod Cymru, yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf heno wrth i Gymru wynebu Croatia ar y STōK Cae Ras yn Wrecsam.
Bydd gêm ragbrofol gyntaf Ewro 2025 yn dechrau am 7.15yh.
Bydd Cymru, Croatia, Wcráin a Chosofo yn cystadlu am y tri safle uchaf yn eu grŵp, er mwyn symud ymlaen i’r gemau ail gyfle yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ond dydy Rhian Wilkinson, sy’n enedigol o Ganada ond â gwreiddiau Cymreig, ddim yn poeni am y pwysau o fod yn hyfforddwraig newydd.
“Os ydym yn chware i’r potensial dw i’n gwybod ein bod ni’n gallu, byddwn ni’n dîm llwyddiannus iawn,” meddai.
A hithau wedi chwarae 183 o weithiau dros Ganada yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae olynydd Gemma Grainger wedi bod yn siarad yn agored am ei barn am y garfan.
O ran ei phenderfyniad i gynnwys pump o chwaraewyr ifainc yn ei charfan o 28 chwaraewr, esbonia ei bod am iddyn nhw “deimlo mai eu tîm nhw” yw hwn.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n gofyn i’r aelodau ifainc yn y garfan fod “yn ddewr”.
Carreg filltir i Jess Fishlock
O ran aelodau hŷn y tîm, Jess Fishlock fydd y chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i gyrraedd 150 o gapiau pe bai hi’n chwarae yn y gêm heno a’r gêm yn erbyn Cosofo ddydd Mawrth (Ebrill 9).
Wedi ei hymddangosiad cyntaf yn ei harddegau yn erbyn y Swistir yn 2006, mae hi wedi cael ei galw’n “eiconig” a “chwaraewr arbennig” gan Rhian Wilkinson.
Cymru’n cynrychioli gwlad gyfan
Mae Rhian Wilkinson yn awyddus i fynd â’i thîm o amgylch y wlad, ac wedi mynegi ei hawydd am gefnogaeth tu hwnt i Gaerdydd.
Mae hi eisiau “clywed egni a sŵn” yn rhywle heblaw’r brifddinas, meddai.
Fe wnaeth y tîm dorri record y dorf ar gyfer gemau rhyngwladol menywod Cymru, drwy ddenu dros 15,000 o gefnogwyr ar gyfer eu buddugoliaeth yn y rownd gyn-derfynol dros Bosnia a Herzegovina ym mis Hydref 2022.
Bydd Cymru’n gobeithio denu’r un math o dorf, os nad rhagor.
Fel Cymru, dydy Croatia na Chosofo erioed wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol prif dwrnament menywod, felly mae disgwyl cystadleuaeth ffyrnig dros yr wythnosau nesaf.
Dilynwch y cyfan ar dudalen X Cymru neu ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.