Mae meysydd gwersylla maes yr Eisteddfod yn llawn bellach, ond i’r rhai sydd o hyd yn chwilio am lety daw lloches ddeniadol mewn man annisgwyl.
Yn ystod wythnos y brifwyl mi fydd cwmni Cartio Môn – sydd yn fwy cyfarwydd i lawer fel cartref rasio ceir cart Ynys Môn – yn darparu maes gwersylla ar eu safle ym Modedern.
Hyd yma mae 100 o lefydd ar gyfer pebyll a charafanau wedi cael eu gwerthu ac yn ôl perchnogion Cartio Môn mae tua 30 lle ar ôl.
Mi fydd y cwmni yn darparu cawodydd a thoiledau, bydd modd prynu brecwast a swper yno, bydd bar ar y safle, ac mae’n debyg bydd bws gwennol yno fydd yn teithio yn rheolaidd i’r brifwyl -sydd ond rhyw filltir i ffwrdd.
Yn ogystal â hynny mi fydd côr lleol, Hogia Bodwrog, yn canu ar y safle ar nos Fercher y Brifwyl ac mi fydd noson sgwrs a holi FA Cymru gyda Rheolwr Cynorthwyol Tîm Pêl Droed Cymru, Osian Roberts, a’r Newyddiadurwr, Lyn Ebenezer, yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos.
“Edrych ymlaen at y bwrlwm”
“Mi oeddem ni wedi meddwl gwneud lle dros dro beth bynnag. Ond gwnaethom ni ddal ymlaen i weld beth oedd yn mynd ymlaen efo’r Eisteddfod,” meddai Cyfarwyddwr Cartio Môn, Eirian Williams, wrth golwg360.
“Roedden ni’n cadw mewn cyswllt efo nhw. Ac unwaith dywedon nhw fod nhw’n llawn dywedon ni, ‘reit awn ni amdani felly’… Rydyn ni’n edrych ymlaen at fwrlwm yr Eisteddfod.”