Mae marchnad newydd yng Nghaerffili’n anelu i groesawu cwmnïau annibynnol.

Agorodd Ffos Caerffili ar Ebrill 5 yn ystod cam cyntaf Cynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035, sy’n anelu i adfywio’r dref.

Derbyniodd y cynllun gymorth ariannol gan Fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yn y farchnad, mae lle i 28 o fasnachwyr, a’r rheiny’n amrywio o lefydd bwyta i siopau sy’n cynnig gweithdai.

Er bod y farchnad yn gartref i siopau oedd eisoes yn adnabyddus – fel Bao Selecta o Gaerdydd – mae siopau annibynnol newydd wedi agor yno hefyd.

Planhigion

Un ohonyn nhw yw Joe’s Plant Place, sy’n cynnig arbenigedd mewn planhigion a gweithdai gwyrdd i bobol o bob oed.

Gobaith y perchennog Joe Carey yw gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol drwy werthu a rhannu’r pleser o edrych ar ôl planhigion.

“Dw i’n credu bod Joe’s Plant Place yn cael effaith fach ond grymus ar y gymuned,” meddai wrth golwg360.

“Mae ein planhigion yn cynnig gwellhad i les pob cartref.

“Ein slogan yw ‘yn dod â harddwch natur i’ch cartref’. Drwy wneud hyn, fel mae ymchwil yn awgrymu, mae planhigion yn cefnogi iechyd pobol o fewn cartrefi, ysgolion, ysbytai… unrhyw le, wir.”

Busnes sy’n blodeuo

Yn ôl Joe Carey, mae’r busnes wedi bod yn perfformio’n dda ers agor ym mis Ebrill.

“Mae awyrgylch ein siop yn hamddenol, ac yn gwneud i’n cwsmeriaid deimlo eu bod nhw mewn coedwig law gyda’n harogleuon a’n synnau naturiol,” meddai wedyn.

“Rydym yn gwerthu planhigion bach a mawr am bris coffi, sy’n galluogi’r cwsmer i gefnogi’r planhigyn a’i wylio’n tyfu wrth iddyn nhw ofalu amdano.”

Ei nod hirdymor yw “gweithio gydag ysgolion er mwyn ychwanegu dosbarthiadau garddwriaeth i’r cwricwlwm, addysgu plant am fuddion garddio, a gofalu am blanhigion”.

Yn ychwanegol, er mwyn tyfu ei fusnes, mae’n gobeithio gweithio gyda sefydliadau sy’n gweithio o fewn swyddfeydd, er mwyn darparu gofod gwyrdd i fusnesau.

“Yn ôl ymchwil diweddar, mae ychwanegu cwpwl o blanhigion i swyddfeydd yn cynyddu cynhyrchiant gan 15%,” meddai.

Costau byw cynyddol yn bryder

Mae costau byw cynyddol yn rywbeth sy’n ei boeni, serch hynny.

“Mae’r costau byw yn cael effaith ar ein busnes, a dw i’n cymryd gofal gan fod pobol yn dewis rhoi bwyd ar y bwrdd yn lle prynu pethau diangen,” meddai Joe Carey wedyn.

“Dw i’n credu bod y buddion o gael planhigion yn y cartref yn gorbwyso’r pethau negyddol.”

Yn ôl Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, gobaith y Cyngor yw fod Ffos Caerffili “yn fan lle mae trigolion yn gallu mwynhau ac ymweld droeon”.

“Bydd y farchnad yn rhoi bywyd newydd i ganol y dref, trwy hwyluso cyfuniad deniadol o fasnachwyr annibynnol, gan gynnig ystod eang o ddewis i siopwyr ac ymwelwyr,” meddai.

Dywed Julie James, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio Cymru, fod Ffos Caerffili yn “enghraifft wych o sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio ein rhaglen Trawsnewid Trefi i adfywio canol trefi a dinasoedd i greu ymdeimlad o le i’w cymunedau”.

“Mae mwy na £2.5m o gymorth ariannol wedi’i ddarparu drwy’r rhaglen, fydd yn sicrhau bod Caerffili yn cadw darpariaeth marchnad yng nghanol y dref,” meddai.