Doeth am Iechyd Cymru

Yn galw ar bobol Cymru — mae myfyrwyr PhD, meddygon ac ymchwilwyr iechyd am i chi fod yn rhan o newid meddygol yng Nghymru.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn galw ar bobol Cymru i helpu i ddiogelu iechyd a lles y genedl yn y dyfodol — drwy ymuno â chronfa ddata ymchwil iechyd nid-er-elw, Doeth am Iechyd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae cymuned Doeth am Iechyd Cymru yn cynnwys dros 40,000 o unigolion allgarol sy’n darparu ymatebion gwirfoddol i arolygon iechyd cyhoeddus — ac yn rhoi caniatâd i ymchwilwyr meddygol gael mynediad at eu cofnodion iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Drwy hyn, mae aelodau Doeth am Iechyd Cymru yn cefnogi gwaith ymchwil hanfodol, sydd weithiau’n newid bywydau, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol — gwaith ymchwil sy’n mynd ymlaen i helpu pobol go iawn yng Nghymru a thu hwnt.

Dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Doeth am Iechyd Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi gwaith ymchwil i ystod o faterion iechyd a gofal cymdeithasol — o boen barhaus i glefyd yr afu a phendro a achosir gan ffactorau gweledol. Ond, gyda chymaint o brosiectau ymchwil cyffrous ar y gorwel, mae’n bwysicach nag erioed i Doeth am Iechyd Cymru ddenu gwirfoddolwyr newydd o bob oed – o amrywiaeth eang o gefndiroedd a lleoliadau ledled Cymru.

Dyna pam mae ymchwilwyr, myfyrwyr PHD, a meddygon fel ei gilydd yn galw ar bobol Cymru i gymryd rhan. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni – ewch ymlaen i ddarllen tystlythyrau gan ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau presennol y gronfa ddata o bob cwr o Gymru.

Wedi’ch argyhoeddi’n barod? Gallwch gofrestru i fod yn aelod o Doeth am Iechyd Cymru, yma.


Alan Thomas — aelod o Doeth am Iechyd Cymru

“Mae gen i Atacsia Cerebellar – cyflwr prin iawn sy’n effeithio ar symudiad y coesau a lleferydd. Fe wnes i ymuno â Doeth am Iechyd Cymru ar ôl cael diagnosis – yn ystod cyfnod pan oeddwn i’n teimlo’n ynysig iawn ac yn rhwystredig oherwydd diffyg gwybodaeth am y salwch. Yn ogystal â delio â’r symptomau – fel blinder llethol ac anhawster symud – ni allwn ddod o hyd i unrhyw gymorth i ddelio â’m cyflwr. Roedd yn anodd. Dyna pam y penderfynais helpu eraill gydag atacsia. Yn ogystal â chynorthwyo gwaith ymchwilwyr gwyddonol drwy Doeth am Iechyd Cymru, sefydlais Ataxia and Me – gwefan lle mae pobol yng Nghymru yn rhannu gwybodaeth am y cyflwr.

“Fel claf sydd â chyflwr prin, rwy’n gwybod na all gwaith ymchwil ac ymwybyddiaeth ddigwydd heb gyfraniad pobl fel fi. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ddioddefwyr atacsia ac eraill sydd â chyflyrau prin yn cofrestru â Doeth am Iechyd Cymru i sicrhau bod ein lleisiau’n dylanwadu ar waith ymchwil meddygol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”


Dr Georgina Powell — Cymrawd Ymchwil a Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd

“Dechreuais ymwneud â Doeth am Iechyd Cymru i gychwyn wrth wneud gwaith ymchwil i bendro a meigryn – drwy fy ngwaith yn Dizzy Lab Prifysgol Caerdydd.

“Y peth cyntaf i mi sylwi arno oedd pa mor gyflym y gwnaeth pobl gofrestru i gymryd rhan yn yr ymchwil – yn wir, roedd yn amlwg o’r cychwyn bod Doeth am Iechyd Cymru yn llawn dop o wirfoddolwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth… A dyna’n union beth wnaethon nhw!

“Mae dros 2,000 o bobol wedi rhoi o’u hamser i gefnogi ein hastudiaeth gyntaf — gan roi’r wybodaeth i ni fod tua 9% o bobol yn profi symptomau eithaf sylweddol o bendro a achosir gan ffactorau gweledol. Ar ben hynny, gwelsom fod y rhai oedd â symptomau yn fwy tebygol o brofi meigryn a gorbryder. Yn y tymor hir, fe wnaeth y canfyddiadau ein helpu i ddylunio Balance Land — adnodd adsefydlu pendro arobryn sy’n cyflwyno defnyddwyr i amgylcheddau trochi gwahanol, pob un wedi’i ddylunio i leihau difrifoldeb symptomau pendro.

“Yn gyffredinol, roedd gweithio gyda Doeth am Iechyd Cymru yn brofiad gwerthfawr iawn – un na allwn ei argymell yn ddigonol i ymchwilwyr eraill, yn bennaf oherwydd cronfa amrywiol ac ymroddedig o gyfranogwyr y platfform. I unrhyw un sy’n ystyried ymuno fel aelod, rwy’n eich annog i fentro. Mae Doeth am Iechyd Cymru yn ei gwneud yn hawdd i bobl gymryd rhan mewn prosiectau o bwys — gan eich gadael yn teimlo’n fodlon ac wedi’ch cyfareddu gan yr astudiaethau, mawr neu fach, rydych chi wedi cymryd rhan ynddynt. Mae pob cyfranogwr yn bwysig ac mae pob cyfranogwr yn gallu gwneud gwahaniaeth.”


Omar Ali — Myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd

“Archwiliodd fy PhD ddylanwadau technoleg newydd ar sgrinio ac atal canser y coluddyn — gwaith na fyddai wedi bod yn bosibl heb Doeth am Iechyd Cymru. Yn anad dim oherwydd bod angen i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil ar ddechrau pandemig y Coronafeirws. Gyda’r genedl gyfan o dan glo a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan bwysau aruthrol, doedd gen i ddim syniad sut y byddwn i’n gallu dod o hyd i gyfranogwyr… Ond daeth Doeth am Iechyd Cymru i’r adwy.

“Yn wir, roeddwn i’n gallu creu fy holiadur a’i anfon at gyfranogwyr perthnasol mor gyflym a hawdd, er gwaethaf y cyfyngiadau symud, wnes i ddim colli unrhyw amser yn ystod cam cyntaf fy ngwaith ymchwil.

“Allaf i ddim diolch digon i’r bobl a ymatebodd i’m hastudiaeth. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith ymchwil – a oedd yn edrych ar rwystrau a chymhellion pobol dros gymryd rhan mewn sgrinio canser y coluddyn – yn cyfrannu un diwrnod at brofi mwy o bobol, ac achub bywydau.”

Disgrifiodd cyfranogwr yng ngwaith ymchwil Omar, John Clancy, ei brofiad.

“Rydw i wedi cael profiad cadarnhaol iawn yn cyfrannu at brosiectau ymchwil a gynhaliwyd gyda Doeth am Iechyd Cymru a byddwn yn annog pawb i wirfoddoli ychydig bach o’u hamser i gefnogi’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud.

“Yn ystod y cyfnod rydw i wedi bod yn rhan o gymuned Doeth am Iechyd Cymru, rydw i wedi cael profiad uniongyrchol o’r boddhad sy’n deillio o gyfrannu at ymchwil iechyd. Rwy’n teimlo fy mod yn chwarae rhan bwysig wrth ddylanwadu ar bolisïau, llywio astudiaethau ymchwil, a chreu dyfodol iachach i Gymru.”


Dr Tom Pembroke — Hepatolegydd Ymgynghorol Caerdydd / Uwch Gymrawd Ymchwil ym maes clefyd yr afu, Prifysgol Caerdydd

“Clefyd yr afu yw un o brif achosion marwolaeth gynnar yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cael effaith sylweddol ar systemau gofal iechyd. Mae meddygon wedi sylwi efallai nad yw pobol sydd â chlefyd yr afu yn ymwybodol o oblygiadau eu symptomau. Gall hyn achosi iddynt oedi wrth geisio cymorth a gwaethygu canlyniadau i’r rhai sydd â chlefyd yr afu. Er mwyn mynd i’r afael â hyn a gwella gwasanaethau i bobol â chlefyd yr afu yng Nghymru, mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o ymwybyddiaeth, profiadau ac agweddau’r cyhoedd tuag at y clefyd — a dyna pam ein bod wedi dechrau’r prosiect hwn gyda Doeth am Iechyd Cymru.

“Ar hyn o bryd, rydym yn credu y bydd ein prosiect ymchwil yn cynnig mewnwelediad sy’n achub bywydau – ond mae angen cymaint o bobol â phosibl arnom i gymryd rhan.

“Yn syml, drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallech helpu i leihau effaith clefyd yr afu, gwella canlyniadau i’r rheini sy’n byw gyda chlefyd yr afu — a bod o fudd i iechyd cyffredinol y wlad gyfan a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru fel aelod o Doeth am Iechyd Cymru heddiw.”


Dr Caroline Alvares – Uwch Ddarlithydd a Haematolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus / Pennaeth prosiect ymchwil CHIP

 

“Rwy’n Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Haematoleg a Haematolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n trin cleifion sydd â lewcemia myeloid acíwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn cynnal ymchwil i’w achosion a’i driniaeth. Mae’r diagnosis yn synnu cleifion, ac mae llawer ohonynt yn gofyn i mi beth y gallent fod wedi’i wneud i atal eu clefyd. Rwy’n frwd dros ddod o hyd i’r atebion i helpu cleifion yn y dyfodol a lleihau nifer yr achosion o glefydau o’r fath.

“Roeddwn i eisiau deall mwy am sut mae pobol yn datblygu newidiadau yn eu genynnau sy’n arwain at ffenomen o’r enw CHIP (hemopoiesis clonaidd o botensial amhenodol), sy’n gallu bod yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon. Daeth yn amlwg ar unwaith y gallai Doeth am Iechyd Cymru helpu i ateb fy nghwestiynau, ac felly cafodd prosiect CHIP ei sefydlu.

“Rydw i wedi cael fy llethu gan ba mor gefnogol a hael o ran eu hamser yw’r cyfranogwyr. Mae’n wych sut mae pobol yn treulio amser yn darllen am bethau ac yn ateb arolygon manwl. Mae’r holl beth yn hael iawn; mae’r bobl hyn yn wirioneddol anhunanol. Mae cyfranogwyr wir yn gweld gwerth mewn cyfrannu at y darlun ehangach, i helpu gydag ymchwil, ac yn y pen draw i helpu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol i greu dyfodol gwell ar gyfer gofal iechyd.”

Felly, beth bynnag fo’ch oedran, eich statws iechyd neu ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, drwy ymuno â Doeth am Iechyd Cymru, gallwch lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ledled y wlad – a chreu amgylchedd mwy diogel, iachach a hapusach am genedlaethau i ddod.

Dywed yr Athro Sunil Dolwani, Cyfarwyddwr Doeth am Iechyd Cymru: “Rwy’n hynod ddiolchgar am haelioni ein cyfranogwyr sy’n rhoi o’u hamser er budd Doeth am Iechyd Cymru – a diolchaf iddynt am arwain y ffordd wrth i ni geisio recriwtio hyd yn oed mwy o aelodau’r mis Medi hwn.

“Drwy ymuno â Doeth am Iechyd Cymru heddiw, byddwch yn dod yn rhan o gymuned fwy o dros 40,000 o unigolion allgarol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles ein cenedl.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gymryd rhan yn Doeth am Iechyd Cymru, ewch i: www.healthwisewales.org/register.