Bydd cyflog athrawon yn gysylltiedig â’u perfformiad yn y dosbarth yn ôl cynlluniau gafodd eu cyhoeddi heddiw gan y Canghellor yn ei Ddatganiad.

O fis Medi nesa ymlaen, ni fydd athrawon yn cael codiad cyflog awtomatig pob blwyddyn. Yn hytrach, bydd ysgolion unigol yn cael penderfynu ar lefelau cyflog a bydd athrawon yn cael eu gwerthuso’n flynyddol.

Mae’r cynlluniau gafodd eu datgelu gan y Canghellor, George Osborne, wedi cael eu cynnig gan Gorff Arolygu Athrawon Ysgol (STRB) sy’n  gwneud argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol ar dâl athrawon ysgol ac amodau cyflogaeth.

Yn ei araith, dywedodd George Osborne: “Mae’r STRB yn argymell llawer mwy o ryddid i ysgolion unigol i bennu cyflogau yn unol â pherfformiad.”

Mae’r cynigion yn cynnwys tâl athrawon dosbarth yn Lloegr ac nid ydynt yn cynnwys arweinwyr ysgol megis penaethiaid a dirprwyon neu benaethiaid cynorthwyol.

Yn y gorffennol, mae undebau athrawon wedi dweud y byddan nhw’n ymgyrchu yn erbyn unrhyw ymgais i gael gwared ar strwythurau cyflog cenedlaethol, gan ddadlau y byddai penderfyniad o’r fath yn torri cyflogau athrawon ac yn golygu y byddai rhai ysgolion, yn enwedig rhai mewn ardaloedd difreintiedig, yn cael trafferth recriwtio staff.