Ad-drefnu Cabinet Llywodraeth San Steffan

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi’i diswyddo, ond mae llawer iawn mwy o newidiadau i ddod

Ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gael ei diswyddo, mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn manteisio ar y cyfle i ad-drefnu ei gabinet.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor James Cleverly wedi’i benodi i’w holynu, a David Cameron, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy’n camu i’r swydd honno.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf yma ar golwg360

17:05

Mae lle i gredu na fydd llythyron rhwng Rishi Sunak a Suella Braverman.

Mae’n arferol i’r Prif Weinidog a gweinidogion sy’n gadael eu swyddi anfon llythyr at ei gilydd.

Ond fydd hyn ddim yn digwydd y tro hwn, yn ôl adroddiadau, a hynny ar ôl i’r Prif Weinidog ddiswyddo’r Ysgrifennydd Cartref dros y ffôn.

16:36

Lee Rowley yw’r Gweinidog Tai newydd – gweinidog rhif 16 yn y swydd honno ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010

15:47

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi mynegi ei rwystredigaeth â’r ad-drefnu.

Mae’n dweud bod ymadawiad Will Quince (Gweinidog Iechyd) yn golygu y bydd e’n cydweithio maes o law â phedwerydd gweinidog ar fwrdd rhaglen strategaeth genedlaethol ar gyfer anafiadau i’r ymennydd.

“Roedden ni i fod i’w chwblhau erbyn yr haf,” meddai.

15:43

Cyn-Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, John Glen, yw’r Tâl-feistr Cyffredinol newydd

14:40

Laura Trott yw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ar ôl symud o’r Adran Gwaith a Phensiynau

14:26

Mae Vicky Atkins wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Iechyd ar ôl i Steve Barclay gael ei symud i hen swydd Therese Coffey

14:15

Richard Holden yw Cadeirydd newydd y Blaid Geidwadol yn lle Greg Hands

14:13

Mae Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Iechyd cyn hyn, wedi’i benodi i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dilyn ymddiswyddiad Therese Coffey

13:49

Mae’r Tâl-feistr Cyffredinol Jeremy Quin wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo.

Dywed mewn llythyr ar X ei fod wedi penderfynu “camu yn ôl” er mwyn canolbwyntio ar ei etholaeth.

13:40

Mae Rachel Mclean, y Gweinidog Tai a Chynllunio, bellach wedi’i diswyddo hefyd.

Wrth ymateb ar X, dywed ei bod “wedi siomi” ond bod ei hamser yn y rôl wedi bod yn “anrhydedd”.