Storm Eunice – y diweddaraf

Mae rhybudd coch yn ei le mewn rhannau o Gymru, sy’n golygu bod perygl i fywydau. Cewch chi’r diweddaraf yma

Mae mwy na 1,800 o gartrefi heb drydan fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 18) o ganlyniad i Storm Eunice.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch, sy’n golygu bod perygl i fywydau wrth i’r gwynt godi i gyflymdra o fwy na 90m.y.a. mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar hyd yr arfordir.

Daeth y rhybudd coch i rym am 7y.b., ac fe fydd yn ei le tan ganol dydd.

Mae rhybudd oren yn ei le ers 3y.b. ac fe fydd yn ei le tan 9 o’r gloch heno.

09:52

09:48

Mae ysgolion yn ardal Abertawe ynghau i ryw 36,000 o ddisgyblion, yn ôl arweinydd y Cyngor Sir.

Mae Rob Stewart wedi bod yn siarad â Sky News, gan ddweud bod gwersi’n parhau o bell.

Mae adeiladau megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymuned ynghau yn sgil y tywydd.

Mae’n dweud bod y rhybudd mewn grym yn y ddinas o ganlyniad i gyfuniad o law trwm, lefel afonydd yn uchel, llanw uchel a pheryglon Storm Eunice.

“Os yw pobol yn dewis mentro allan heddiw, cadwch draw o linellau arfordirol, cadwch draw o’n hafonydd, peidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl, arhoswch gartref os gallwch chi, a gweithiwch o adref os oes modd.

“Mae hon yn sefyllfa beryglus iawn.”

09:43

Mae Pont Hafren yr M48 ynghau i’r ddau gyfeiriad, ac mae teithwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ail bont – neu Bont Tywysog Cymru.

 

09:36

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dyma mae rhybudd coch yn ei olygu:

  • Malurion yn achosi perygl i fywydau
  • Difrod i adeiladau, cartrefi, toeon a cholli cyflenwadau trydan
  • Dadwreiddio coed
  • Ffyrdd, pontydd a rheilffyrdd ynghau, gydag oedi mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus os nad yw gwasanaethau wedi’u canslo’n llwyr
  • Colli cyflenwadau’n effeithio ar wasanaethau eraill megis signal ffôn symudol
  • Tonnau mawr a malurion o’r traeth ar y ffyrdd, ar lwybrau cerdded ger traethau a chartrefi, a llifogydd mewn rhai achosion

09:28