Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu cynhadledd Yr Hawl i Dai Digonol: Beth sy’n Bosibl yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd heddiw (16 Tachwedd).
Bwriad y gynhadledd yw trafod sut mae mynd i’r afael a’r prinder tai fforddiadwy sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru.
O dan gynigion Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo mae saith nod o sut byddai’r Gymdeithas yn awgrymu mynd i’r afael a’r broblem gynyddol amlwg.
Bydd siaradwyr gwadd gan gynnwys Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol Community Housing Cymru; Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Alicja Zalesinska o Tai Pawb a Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn trafod y posibiliadau i’r sefyllfa dai yng Nghymru.
Mwy o ddiweddariadau i ddilyn.
Dywedodd Dara Turnbull, Cydlynydd Ymchwil Housing Europe, bod tai yn cael eu gweld yn gynyddol fel rhywbeth mae pobol “eisiau ac nid eu hangen.”
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai, dywedodd bod angen yn gyntaf deall pam bod tai yn wag a deall sut gallwn ni ddod â phobol yn ôl i’r adeiladau yma.
Mae angen meddwl am atebion penodol ar gyfer Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r wlad mewn ffordd effeithlon, meddai.
Dywedodd bod angen hefyd cadw anghenion cymunedau mewn golwg a sicrhau bod yr anghenion yma hefyd yn cael eu cyrraedd wrth geisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae’n rhaid sicrhau tai o ansawdd uchel os yw pobol am godi eu prisiau rhent yn uchel, medd Dara Turnbull.
Dywedodd bod pobol ifanc yn cael eu gwthio allan o’u cymunedau yn broblem amlwg ar draws Ewrop.
Yn Nenmarc maent wedi adeiladu tai’n benodol ar gyfer pobol ifanc er mwyn diwallu eu hanghenogion nhw.
Mae’n awgrymu dylai Cymru ystyried camau tebyg.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, deilydd portffolio Cartrefi ar Gabinet Gyngor Sir Gâr, bod poblogaeth y sir wedi cynyddu o tua 162,000 ar ddechrau’r 90au i 188,000 rŵan.
Mae hyn yn gynnydd o tua 16%.
Yn y cyfamser, mae’r cyflenwad o dai cyngor wedi cwympo.
Yn ôl Linda Evans, mae mwy o ddigartrefedd yn Sir Gâr – ac yng Nghymru – nag erioed.
Ar hyn o bryd mae 143 o bobol yn byw mewn llety dros dro, mae hynny’n cynnwys 37 o deuluoedd.
Mae 17% o blant Cymru sy’n byw mewn tlodi yn dod o aelwyd ble mae’r ddau riant yn gweithio.
“Y rhai ar yr incwm isaf sy’n dwyn y pwysau mwyaf – yn gyntaf ac yn galetaf,” meddai Clarissa Corbisiero.
Dywedodd mai bwyd, dodrefn ac ynni oedd y prif feysydd oedd wedi annog pobol i ofyn am gymorth.
Yn ôl Clarissa Corbisiero dydy hi “erioed wedi bod yn anoddach” i adeiladu tai.
Daw hyn wrth i gostau adeiladu tai gynyddu o 36% rhwng 2014 a 2022.
Mae hi’n dweud bod cynyddu’r lwfans tai lleol yn “hanfodol” er mwyn helpu i denantiaid aros mewn cartrefi rhent preifat.
Dros y dyddiau diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal taith Deddf Eiddo ledled Cymru er mwyn trafod y problemau gyda thrigolion y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.
Yn ystod y daith codwyd pryderon gan drigolion ym Mhenygroes, Llansannan, Trefriw, Aberystwyth a Blaenau Ffestiniog – i enwi llond llaw.
Dywedodd trigolion Trefriw bod cynlluniau i godi 9 fflat gosod gwyliau mewn hen gapel, tra bod tai cyngor wedi eu troi yn dai haf yn Aberffraw.
Yn ôl trigolion, mae’r ardal wedi dod yn anial dros fisoedd y gaeaf.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod rhaid mynd i’r afael â’r argyfwng tai er mwyn mynnu cymdeithas decach yng Nghymru.
Dylid sicrhau tai sy’n caniatau mynediad addas at addysg, gwaith a darpariaeth iechyd boed hynny trwy drafnidiaeth bersonol neu gyhoeddus, meddai.
“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”
Agorwyd y gynhadledd gan Gadeirydd newydd y Gymdeithas, Joseff Gnagbo, a dywedodd bod y sefyllfa dai presennol yn “tanseilio ymdeimlad o berthyn i gymuned a sicrwydd ar gyfer y dyfodol.
“Dywedodd bod Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno hyd yma, megis cyflwyno premiwm ail gartrefi.
Fodd bynnag, dywedodd bod yn rhaid mynd ymhellach er mwyn dod â sicrwydd i ddyfodol marchnad dai Cymru.
“Mae modd datrys y broblem dai os yw’r Llywodraeth yn ymateb o ddifrif,” meddai.