Cynhadledd Cymdeithas yr Iaith: Yr Hawl i Dai Digonol

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ym Mae Caedydd er mwyn trafod y posibiliadau ar gyfer y sefyllfa dai yng Nghymru

gan Catrin Lewis

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal eu cynhadledd Yr Hawl i Dai Digonol: Beth sy’n Bosibl yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd heddiw (16 Tachwedd).

Bwriad y gynhadledd yw trafod sut mae mynd i’r afael a’r prinder tai fforddiadwy sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru.

O dan gynigion Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo mae saith nod o sut byddai’r Gymdeithas yn awgrymu mynd i’r afael a’r broblem gynyddol amlwg.

Bydd siaradwyr gwadd gan gynnwys Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddydd Polisi a Materion Allanol Community Housing Cymru; Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Alicja Zalesinska o Tai Pawb a Walis George o Gymdeithas yr Iaith yn trafod y posibiliadau i’r sefyllfa dai yng Nghymru.

Mwy o ddiweddariadau i ddilyn.

11:01

Dros y dyddiau diwethaf mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal taith Deddf Eiddo ledled Cymru er mwyn trafod y problemau gyda thrigolion y cymunedau sydd wedi eu heffeithio.

Yn ystod y daith codwyd pryderon gan drigolion ym Mhenygroes, Llansannan, Trefriw, Aberystwyth a Blaenau Ffestiniog – i enwi llond llaw.

Dywedodd trigolion Trefriw bod cynlluniau i godi 9 fflat gosod gwyliau mewn hen gapel, tra bod tai cyngor wedi eu troi yn dai haf yn Aberffraw.

Yn ôl trigolion, mae’r ardal wedi dod yn anial dros fisoedd y gaeaf.

10:56

Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod rhaid mynd i’r afael â’r argyfwng tai er mwyn mynnu cymdeithas decach yng Nghymru.

Dylid sicrhau tai sy’n caniatau mynediad addas at addysg, gwaith a darpariaeth iechyd boed hynny trwy drafnidiaeth bersonol neu gyhoeddus, meddai.

“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”

10:53

Agorwyd y gynhadledd gan Gadeirydd newydd y Gymdeithas, Joseff Gnagbo, a dywedodd bod y sefyllfa dai presennol yn “tanseilio ymdeimlad o berthyn i gymuned a sicrwydd ar gyfer y dyfodol.

“Dywedodd bod Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno hyd yma, megis cyflwyno premiwm ail gartrefi.

Fodd bynnag, dywedodd bod yn rhaid mynd ymhellach er mwyn dod â sicrwydd i ddyfodol marchnad dai Cymru.

“Mae modd datrys y broblem dai os yw’r Llywodraeth yn ymateb o ddifrif,” meddai.