Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt arni) yn dweud wrthych beth yw telerau defnyddio ein gwefan (golwg360.com), p’un ai fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Noder at ddibenion y telerau defnyddio hyn, nid yw “ein safle” yn cynnwys y tudalennau ar ein safle a ddarparwyd gan ein partneriaid ac nid yw’r telerau defnyddio hyn yn berthnasol i’n tudalennau partner.
Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio’r safle. Trwy ddefnyddio ein safle, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i ufuddhau iddynt. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, peidiwch â defnyddio ein safle.
Gwybodaeth amdanom ni
Mae golwg360.com yn safle a weithredir gan Golwg Newydd Cyfyngedig (“Ni”). Rydym yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 06692519 ac mae ein swyddfa gofrestredig a’n prif swyddfa masnachu yn Unedau 9, 10, 11 Parc Menter Llambed, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan SA48 8LT. Ein rhif TAW yw 941 9611 14.
Cael mynediad i’n gwefan
Caniateir mynediad i’n gwefan dros dro, ac rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ein safle yn ôl neu ei ddiwygio heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os am unrhyw reswm nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu mynediad i rai rhannau o’n safle, neu ein safle gyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.
Os ydych yn dewis, neu yn cael, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, ac ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i anablu unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a yw wedi ei ddewis gennych chi neu wedi ei ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os yn ein barn ni yr ydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r darpariaethau yn y telerau defnyddio hyn.
Wrth ddefnyddio ein gwefan, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r darpariaethau yn ein polisi defnydd derbyniol.
Rydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sydd yn angenrheidiol i chi gael mynediad i’n safle. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bobl sy’n cael mynediad i’n gwefan trwy eich cyswllt rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.
Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog neu ddaliwr trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol ar ein safle, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae’r gweithiau hynny’n cael eu diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ar draws y byd. Cedwir yr holl hawliau o’r fath.
Gallwch argraffu un copi, a gallwch lawrlwytho detholiadau, o unrhyw dudalen(nau) o’n safle er gwybodaeth bersonol a gallwch dynnu sylw eraill yn eich sefydliad at ddeunydd sydd wedi ei bostio ar ein safle.
Ni allwch addasu copïau papur na digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu hargraffu neu eu llwytho i lawr mewn unrhyw ffordd, ac ni allwch ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain neu unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun a ddaw gyda hwy.
Mae’n rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodir) fel awduron deunydd ar ein safle bob amser.
Ni allwch ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein safle at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.
Os ydych yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n safle gan dorri’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan yn dod i ben ar unwaith ac mae’n rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi eu gwneud.
Dibyniaeth ar wybodaeth wedi ei phostio
Nid yw sylwebaeth a deunyddiau eraill sydd wedi eu postio ar ein safle wedi eu bwriadu i fod yn gyngor y dylid dibynnu arno. Rydym felly yn gwrthod unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw ymwelydd â’n safle, neu gan unrhyw un a allai gael ei hysbysu o’u gynnwys.
Mae ein safle yn newid yn rheolaidd
Ein nod yw diweddaru ein safle yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw bryd. Os yw’r angen yn codi, gallwn atal dros dro eich mynediad i’n safle, neu ei gau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ddeunydd ar ein safle fod wedi dyddio ar unrhyw adeg, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru deunydd o’r fath.
Ein hatebolrwydd
Darperir y deunydd a ddangosir ar ein safle heb unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir yn ôl y gyfraith, rydym ni a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni trwy hyn yn eithrio yn ffurfiol:
- Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall gael eu cyfleu gan statud, y gyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.
- Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achoswyd gan unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n safle neu mewn cysylltiad â defnyddio, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein safle, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi eu postio arno, yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am:
- golli incwm neu refeniw;
- colli busnes;
- colli elw neu gontractau;
- colli cynilion a ragwelwyd;
- colli data;
- colli ewyllys da;
- gwastraff rheolaeth neu amser swyddfa; ac
- am unrhyw golled neu niwed arall o unrhyw fath, sut bynnag y mae’n codi a ph’un a yw wedi ei achosi gan gamwedd (yn cynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os y gellid ei ragweld.
Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n hatebolrwydd am gamddehongli twyllodrus neu gamddehongli, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’u gyfyngu yn unol â chyfraith berthnasol.
Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â’n safle
Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio ein safle, rydych yn rhoi eich caniatâd i brosesu o’r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych chi yn gywir.
Firysau, hacio a throseddau eraill
Ni allwch gamddefnyddio ein safle trwy gyflwyno yn ymwybodol firysau, ceffylau troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sydd yn faleisus neu’n niweidiol yn dechnegol. Ni allwch geisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinydd lle mae ein safle wedi ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n safle ni. Ni allwch ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwasgaredig gwrthod gwasanaeth.
Trwy dorri rheolau’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd yn unol â Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol ynghylch tor amod o’r fath a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddyn nhw. Os digwydd tor amod o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben ar unwaith.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan ymosodiad gwasgaredig gwrthod gwasanaeth, firysau neu ddeunydd arall sydd yn dechnegol niweidiol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchenogol arall oherwydd eich defnydd o’n safle neu wrth lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd wedi ei bostio arno, neu ar unrhyw wefan sydd yn gysylltiedig ag ef.
Cysylltu â’n safle
Gallwch gysylltu â’n hafan, cyhyd â’ch bod yn gwneud hynny mewn modd sydd yn deg ac yn gyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond ni ddylech sefydlu cyswllt mewn ffordd sydd yn awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad oes un yn bodoli.
Ni allwch sefydlu dolen o unrhyw wefan nad ydych chi yn berchen arni heb ein caniatâd ysgrifenedig ni.
Ni ellir ffurfio ein safle ni ar unrhyw safle arall, ac ni allwch chwaith greu dolen i unrhyw ran o’n safle ni ar wahân i’r hafan heb ein caniatâd ysgrifenedig ni. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltiol yn ôl heb rybudd. Mae’n rhaid i’r wefan yr ydych yn ei chysylltu oddi wrthi gydymffurfio ar bob agwedd â’r safonau cynnwys a nodir yn ein polisi defnydd derbyniol.
Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw ddefnydd o ddeunydd ar ein safle ar wahân i’r hynny a nodir uchod, dylech gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion cysylltu yma.
Dolenni o’n gwefan
Pan fydd ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’u defnyddio.
Tudalennau ein partneriaid
Darperir tudalennau ein partneriaid er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y tudalennau na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’u defnydd gennych chi.
Awdurdodaeth a chyfraith berthnasol
Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngol dros unrhyw honiad sy’n deillio o neu sy’n gysylltiedig ag ymweliad â’n safle. Mae’r telerau defnyddio hyn wedi eu llywodraethu gan gyfreithiau cyfraith Cymru a Lloegr.
Amrywiadau
Fe allwn adolygu’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau yr ydym wedi eu gwneud, gan eich bod yn gaeth iddynt. Gall darpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein safle hefyd ddisodli’r darpariaethau a geir yn y telerau defnyddio hyn.
Eich Ymholiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y deunydd sy’n ymddangos ar ein safle, cysylltwch â cymorth@golwg.com
Diolch am ymweld â’n safle.