Bydd tîm pêl-droed Cymru’n anelu am ddyrchafiad annhebygol yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno (nos Fawrth, Tachwedd 19), wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Iâ i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Hon yw’r gêm olaf yn y grŵp, ac mae’n debygol y bydd yn rhaid i dîm Craig Bellamy ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn bod yn sicr o’u lle.
Mae Twrci ar frig Grŵp B4 ag unarddeg o bwyntiau, tra bo Cymru’n ail â naw pwynt, a Gwlad yr Iâ yn drydydd â saith pwynt.
Er mwyn gorffen ar y brig, bydd yn rhaid i Gymru ennill a gobeithio bod Twrci yn colli ym Montenegro, sydd heb bwynt hyd yma.
Ond gallai gêm gyfartal rhwng Twrci a Montenegro olygu bod gan Gymru llygedyn o obaith, ond byddai’n rhaid iddyn nhw guro Gwlad yr Iâ o bedair gôl.
Y canlyniad mwyaf tebygol, felly, yw gêm ail gyfle ym mis Mawrth.
‘Mae’n od bod yn siomedig’
Gallai Cymru’n hawdd iawn fod wedi colli yn erbyn Twrci yn Kayseri nos Sadwrn (Tachwedd 16), ond fe gawson nhw achubiaeth wrth i Kerem Akturkoglu fethu â chic o’r smotyn yn y munudau olaf ar ôl i Yunus Akgun gael ei lorio gan Neco Williams.
Doedd Craig Bellamy ddim yn teimlo’i bod hi’n gic o’r smotyn, serch hynny, gan ddweud bod yr ymgais aflwyddiannus at y gôl o’r smotyn yn ganlyniad cyfiawn i Gymru.
Yn ôl Dylan Ebenezer, sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ar drothwy’r gêm heno, mae’n debyg mai Twrci fyddai’r tîm mwyaf siomedig ar ôl y gêm gyfartal ddi-sgôr.
“Mae’n od bod yn siomedig, ac mae Twrci, siŵr o fod, yn fwy siomedig, achos wnaethon nhw reoli cyfnodau hir o’r gêm,” meddai.
“Roedden nhw’n creu cyfleoedd, dim rhai cryf, ond roedden nhw’n creu cyfleoedd, ac roedden nhw’n wastraffus iawn gyda’r gic o’r smotyn.
“Wnaeth Cymru ddal eu tir.
“Mae steil o chwarae [Cymru] mor agored, mae’n ffrantig ond yn ddiddorol, chwarae teg, ac maen nhw’n ddewr iawn yn chwarae ar hyn o bryd.
“Maen nhw wedi cael bach o lwc, a bod yn deg.
“Fi’n siŵr bod Twrci’n teimlo bo nhw’n haeddu ennill y gêm, a byddai hynny’n anodd dadlau.
“Mae arwyddion bob hyn a hyn o ran beth Cymru’n trio gwneud bo nhw ar y trywydd cywir, ac mae’n teimlo’n eithaf positif.
“Mae Twrci’n dîm da, fi’n credu.
“Enillon ni yn eu herbyn nhw yn yr Ewros yn Baku – roedden nhw’n chwarae’n wael ar y pryd, ond rydyn ni wedi gweld ers hynny bo nhw’n dîm da, felly mae mynd yno a chael gêm gyfartal yn ganlyniad da, chwarae teg.
“Byddai lot o wledydd eraill yn hapus gyda’r canlyniad yna.
“Mae’n bwynt da ond dyw e siŵr o fod ddim yn mynd i fod yn ddigon [i orffen ar frig y grŵp].
“Hyd yn oed bo nhw’n ennill, rydyn ni’n edrych i Dwrci i golli ym Montenegro, a dydych chi jyst methu gweld e’n digwydd – ond efallai, dych chi byth yn gwybod…
“Gêm gyfartal i Dwrci, a gallen ni fod yn gorffen ar yr un pwyntiau tasen ni’n ennill, ond wedyn mae eu gwahaniaeth goliau nhw’n well.
“Head-to-head yw e fel arfer, ond achos bod y ddwy gêm [rhwng Cymru a Thwrci] yn ddi-sgôr, does dim head-to-head i gymharu, felly gwahaniaeth goliau fydd e ac maen nhw’n well.
“Dyw Montenegro ddim wedi cael pwynt, felly mae angen i rywbeth rhyfedd ddigwydd i Gymru orffen ar y brig, ond dyna i gyd maen nhw’n gallu’i wneud yw gwneud eu gwaith, ennill y gêm a gweld beth ddigwyddith yn y gêm arall.”
‘Popeth yn teimlo’n bositif’
Wrth edrych ar berfformiadau a chanlyniadau Cymru ar y cyfan, mae “popeth yn teimlo’n bositif” i Dylan Ebenezer ar hyn o bryd.
Mae gan Craig Bellamy record 100% o hyd, wrth i Gymru barhau’n ddi-guro o dan ei reolaeth ers iddo fe gael ei benodi’n olynydd i Rob Page.
“Pwy a ŵyr beth ddaw pan ddaw gemau rhagbrofol Cwpan y Byd rownd, ond mae’n teimlo’n bositif,” meddai cyflwynydd Sgorio.
“Mae [Craig Bellamy] wedi dod ag egni ffres i’r garfan, ac mae’r chwaraewyr fel tasen nhw’n mwynhau, sef hanner y frwydr, fysen i’n tybio.
“Fi wrth fy modd gyda’r syniadau sydd gyda fe.
“Dyw e ddim yn ofni dewis chwaraewyr annisgwyl, hyd yn oed yn Nhwrci, gydag ugain munud i fynd ac mae’n taflu ymosodwyr ymlaen, a Brooks yn dod ymlaen lle fydden ni’n disgwyl amddiffynnwr, a dal i fynd amdani.
“Dyw e ddim jyst yn wahanol i Gymru, ond mae’n wahanol i lot o glybiau hefyd; does dim lot o glybiau’n gwneud beth mae e’n gwneud. Mae e mor bositif.
“Yr unig deimlad bach, ryw nagging doubt, sydd gyda fi yw y byddai Rob Page wedi cael canlyniadau tebyg yn yr ymgyrch yma, ond fyddai e ddim wedi bod yn gymaint o hwyl!”
Diffyg goliau
Y broblem fwyaf, efallai – ac yn enwedig ers colli Gareth Bale – yw’r diffyg goliau, er bod Cymru’n creu digon o gyfleoedd.
“Mae’r gêm gyfartal yn erbyn Twrci yn teimlo fel standout,” meddai Dylan Ebenezer am y canlyniad hwnnw.
“Yr unig beth sy’n poeni fi yw pwy sy’n mynd i sgorio’r goliau.
“Fi’n mwynhau beth maen nhw’n gwneud, ac maen nhw’n datblygu, ond ti jyst yn edrych ac yn meddwl, pwy sy’n mynd i orffen y symudiadau yma i gyd?
“Diffyg opsiynau yw e, fi’n credu.
“Efallai mai Brennan Johnson yw’r ateb; mae e’n gweithio’n galed ar yr asgell.
“Mae Kieffer Moore wedi’i anafu, ond fi ddim yn siŵr mai fe yw’r ateb fel prolific striker, ond mae’n gwneud yn dda i Gymru.
“Fi jyst yn teimlo’n gyffredinol – ac maen nhw’n dweud ers blynyddoedd – os gallwn ni ffeindio ymosodwr i gael goliau i ni, byddai’n trawsnewid y tîm.
“Goliau yw’r unig beth sy’n poeni fi.”
50 i Joe Rodon
Yng nghefn y cae, yn y cyfamser, un fydd yn cael ei ddathlu heno yw Joe Rodon, yr amddiffynnwr canol sy’n ennill ei hanner canfed cap dros Gymru.
“Mae Joe Rodon wastad yn edrych fel bod e’n mynd i grïo, a dyw e ddim yn edrych fel bod e’n mwynhau chwarae pêl-droed!” meddai Dylan Ebenezer, dan chwerthin.
“Ond mae e’n chwaraewr ffantastig, a fi wrth fy modd gyda fe.
“Dyw e ddim yn hen-ffasiwn, ond mae e jyst mor angerddol, ac yn ryw fath o throwback o ran rhoi ei gorff ar y llinell.
“Fi heb weld llawer ohono fe gyda Leeds, ond mae’n cael ei ganmol lot.
“Dyw e ddim yn dod off, ac yn chwarae bob eiliad o bob gêm, hyd yn oed pan oedd gyda fe rwymyn ar ei ben y noson o’r blaen.
“Wnaeth e chwarae bob munud o Ewro 2024, mae e wastad yna.
“Mae e’n gallu gwneud gormod weithiau, yn trio cadw’r bêl ma’s – ac mae’n dda am wneud hynny – ond mae e fel tase fe wedi setlo.
“Mae’n 27 nawr, a bod yn deg.
“Fi’n ffan mawr o Joe Rodon, â’i galon ar ei lewys.
“Pan aeth e i Spurs, gafodd e amser anodd ond mae e fel tase fe wedi setlo yn Leeds.”
Rhaid dweud bod deg munud cynta’r ail hanner wedi bod yn well o lawer i Gymru na deg munud cynta’r hanner cyntaf.
Ymosodiad cryf gan Gymru i lawr yr ochr chwith, ac maen nhw’n dechrau edrych yn beryglus eto gyda chyfres o giciau cornel. Ond cyfle arall wedi’i wastraffu yn y pen draw.
Cyfle cynta’r ail hanner i Wlad yr Iâ, wrth i Ellertsson orfodi arbediad dros y trawst gan Ward. Cic gornel, a’r bêl yn cael ei tharo ar draws y gôl.
Mae gan Bellamy benbleth yn yr ail hanner. Mae angen amddiffyn y fantais sydd gan ei dîm, ond bydd angen mynd am y goliau hefyd. Tybed pryd welwn ni’r eilyddion, a phwy ddaw i’r cae?
Dim newidiadau i Gymru ar yr egwyl, ond un i Wlad yr Iâ, gyda Johann Gudmundsson yn gadael canol cae, a Stefan Teitur Thordarson ymlaen yn ei le.
Gôl!
Ail gôl i Liam Cullen.
Mark Harris a Dan James wedi cyfuno’n gelfydd i adennill y meddiant, a Cullen yno i daro’r bêl i’r rhwyd o ymyl y cwrt chwech.
2-1 i Gymru ar yr egwyl!
Mae Montenegro yn ôl ar y blaen o 2-1 yn erbyn Twrci – hanner amser yn y gêm honno hefyd.
Cyfle hwyr i Gymru, gydag ergydion gan Johnson a Wilson, ond y golwr yn edrych yn ddigon cyfforddus.
Dwy funud o amser ychwanegol i ddod ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Mae Cymru wedi cael 66% o’r meddiant hyd yma, ac mae angen iddyn nhw ddechrau manteisio ar hynny.
Arbediad cryf gan Johnson o ochr dde’r cwrt cosbi’n arwain at gic gornel, ond Gwlad yr Iâ’n dileu’r bygythiad.
42 munud ar y cloc.
Diweddariad o’r gêm bwysig arall i Gymru – roedd Montenegro, sydd heb bwynt yn yr ymgyrch, ar y blaen o 1-0 yn erbyn Twrci! Ond mae’n gyfartal 1-1 bellach.
Gôl!
Liam Cullen! Pêl dda i mewn o’r asgell dde gan Johnson, a’r blaenwr yn manteisio.
Mae Cymru’n ôl ynddi!
1-1 ar ôl 32 munud.