Cymru 1-0 Montenegro

Craig Bellamy yn cynnal ei rediad di-guro yn rheolwr ar Gymru

Bydd tîm pêl-droed Cymru’n croesawu Montenegro i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Lun, Hydref 14), yn y gobaith o gynnal eu rhediad di-guro ers i Craig Bellamy gael ei benodi’n rheolwr.

Cawson nhw gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Reyjkavik yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener (Hydref 11), ac maen nhw bellach yn ddi-guro mewn tair gêm yn y gystadleuaeth.

Mae diolch mawr am hynny i Brennan Johnson, sydd bellach wedi sgorio saith gôl mewn saith gêm, ond mae e wedi’i wahardd heno yn dilyn cerdyn melyn nos Wener.

Bu’n rhaid i Gymru chwarae heb Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn Reykjavik oherwydd anafiadau sy’n parhau, a fydd Jordan James ddim ar gael chwaith gan fod yntau hefyd wedi’i wahardd yn sgil cerdyn melyn.

Dydy Joe Allen ddim yn holliach, er ei fod e wedi cyhoeddi tro pedol ar ei ymddeoliad gan ddychwelyd i’r garfan ryngwladol ar gyfer y gêm ddiwethaf.

Y gwrthwynebwyr

Un fydd ddim ar gael i Montenegro yw Milutin Osmajic, sydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar am frathu’r Cymro Owen Beck mewn gêm rhwng Preston a Blackburn.

Mae’r gŵr o Montenegro wedi’i wahardd am wyth gêm yn sgil y digwyddiad yn Deepdale fis diwethaf.

Mae ei dîm cenedlaethol ar waelod y grŵp, a dydyn nhw ddim wedi ennill yr un pwynt eto.

Twrci sydd ar y brig, gyda saith pwynt hyd yn hyn.

Bydd Cymru’n teithio i’r wlad honno fis nesaf, ac mae ganddyn nhw bum pwynt hyd yma, gyda Gwlad yr Iâ y tu ôl iddyn nhw ar bedwar.

Byddai cipio’r ail safle yn golygu gêm ail gyfle i dîm Craig Bellamy fis Mawrth nesaf.

Chwarae am 90 munud cyfan

Yn ôl Iwan Roberts ar raglen Sgorio, mae’n hanfodol bod Cymru’n chwarae’n gystadleuol am 90 munud cyfan.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn yn yr hanner cyntaf yn erbyn Twrci, ond yn yr ail hanner roeddwn i’n meddwl bo ni ddim hanner cystal,” meddai.

“Doedden ni ddim yn edrych fel sgorio, doeddwn i ddim yn meddwl, ac roedden nhw i lawr i ddeg o chwaraewyr.

“Yn erbyn Montenegro [fis diwethaf], roeddwn i’n meddwl ein bod ni braidd yn ffodus i ddod o ’na efo’r triphwynt, i ddweud y gwir.

“Os wyt ti’n edrych ar y cyfleon gafodd Montenegro… gaethon nhw gyfleoedd da i sgorio mwy nag un gôl.”

Ychwanega fod angen “mwy o gysondeb a pherfformiad llawn” heno.

Bydd golwg360 yn dod â’r cyfan o’r gêm i chi.

 

22:28

Bellamy eto:

“Rhaid i ni barhau i wella.

“Symudon ni i dri siâp gwahanol heno. Dwi’n hoffi adeiladu llyfrgell o opsiynau.

“Mae yna flociau adeiladu, rhaid gwella a dw i’n teimlo ein bod ni’n gwneud hynny.”

Wrth drafod ei hun fel rheolwr, dywed ei fod yn “rookie” ond ei fod yn “mwynhau” yn y swydd.

Ac mae’n debyg fod ei chwaraewyr a’r cefnogwyr yn mwynhau bywyd gyda Bellamy wrth y llyw.

Nos da!

22:26

Mae Craig Bellamy, rheolwr Cymru yma:

“Mae carfan yn rhoi cyfle gwell i chi gymhwyso ar gyfer twrnament.

“Ges i sawl mis i baratoi ar gyfer y sefyllfa orau, y sefyllfa waethaf a’r sefyllfa ganolig.

“Allwn ni ennill pob gêm? Os na, sut allwn ni wella?”

Mae e hefyd wedi canmol ei staff hyfforddi hyd yma.

22:19

“Roedd yr awyrgylch yn arbennig, yn ôl yr arfer,” meddai Prosinecki wedyn.

22:10

Robert Prosinecki, rheolwr Montenegro, sydd gyntaf.

“Dyma berfformiad roedden ni eisiau iddo fe fod yn well, ond ddigwyddodd hynny ddim,” meddai, gan gyfeirio at y llu o eilyddion.

“Wnaethon ni ddim perfformio’n dda, ond roedden ni’n ddewr a chawson ni sawl cyfle.

“Wnaethon ni adael i [Gymru] ddominyddu. Fe wnaeth y gic o’r smotyn ddifetha ein gêm.”

22:02

Buddugoliaeth gyntaf i Bellamy y rheolwr yng Nghaerdydd. Fe gawn ni glywed ganddo fe yn y man.

21:38

Sgôr terfynol: Cymru 1-0 Montenegro

21:37

Cic rydd i Gymru am drosedd ar Thomas ar yr asgell chwith…

21:35

Neco Williams yn gorfodi arbediad gan Nikic. Cic gornel… ond Moore yn methu manteisio. Arbediad syml.

21:34

Pedair munud o amser wedi’i ychwanegu ar gyfer anafiadau, a cherdyn melyn i Sipcic am drosedd ar Moore. Cic rydd ar ymyl y cwrt cosbi…

21:31

Camgymeriad gan Radulovic yn rhoi hanner cyfle i Thomas, ond y cyfle’n ofer.

Dwy funud o’r 90 i fynd…

Kieffer Moore ac Ollie Cooper i’r cae yn lle Liam Cullen a Mark Harris.