Cymru 1-0 Montenegro

Craig Bellamy yn cynnal ei rediad di-guro yn rheolwr ar Gymru

Bydd tîm pêl-droed Cymru’n croesawu Montenegro i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Lun, Hydref 14), yn y gobaith o gynnal eu rhediad di-guro ers i Craig Bellamy gael ei benodi’n rheolwr.

Cawson nhw gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Reyjkavik yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener (Hydref 11), ac maen nhw bellach yn ddi-guro mewn tair gêm yn y gystadleuaeth.

Mae diolch mawr am hynny i Brennan Johnson, sydd bellach wedi sgorio saith gôl mewn saith gêm, ond mae e wedi’i wahardd heno yn dilyn cerdyn melyn nos Wener.

Bu’n rhaid i Gymru chwarae heb Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn Reykjavik oherwydd anafiadau sy’n parhau, a fydd Jordan James ddim ar gael chwaith gan fod yntau hefyd wedi’i wahardd yn sgil cerdyn melyn.

Dydy Joe Allen ddim yn holliach, er ei fod e wedi cyhoeddi tro pedol ar ei ymddeoliad gan ddychwelyd i’r garfan ryngwladol ar gyfer y gêm ddiwethaf.

Y gwrthwynebwyr

Un fydd ddim ar gael i Montenegro yw Milutin Osmajic, sydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar am frathu’r Cymro Owen Beck mewn gêm rhwng Preston a Blackburn.

Mae’r gŵr o Montenegro wedi’i wahardd am wyth gêm yn sgil y digwyddiad yn Deepdale fis diwethaf.

Mae ei dîm cenedlaethol ar waelod y grŵp, a dydyn nhw ddim wedi ennill yr un pwynt eto.

Twrci sydd ar y brig, gyda saith pwynt hyd yn hyn.

Bydd Cymru’n teithio i’r wlad honno fis nesaf, ac mae ganddyn nhw bum pwynt hyd yma, gyda Gwlad yr Iâ y tu ôl iddyn nhw ar bedwar.

Byddai cipio’r ail safle yn golygu gêm ail gyfle i dîm Craig Bellamy fis Mawrth nesaf.

Chwarae am 90 munud cyfan

Yn ôl Iwan Roberts ar raglen Sgorio, mae’n hanfodol bod Cymru’n chwarae’n gystadleuol am 90 munud cyfan.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn yn yr hanner cyntaf yn erbyn Twrci, ond yn yr ail hanner roeddwn i’n meddwl bo ni ddim hanner cystal,” meddai.

“Doedden ni ddim yn edrych fel sgorio, doeddwn i ddim yn meddwl, ac roedden nhw i lawr i ddeg o chwaraewyr.

“Yn erbyn Montenegro [fis diwethaf], roeddwn i’n meddwl ein bod ni braidd yn ffodus i ddod o ’na efo’r triphwynt, i ddweud y gwir.

“Os wyt ti’n edrych ar y cyfleon gafodd Montenegro… gaethon nhw gyfleoedd da i sgorio mwy nag un gôl.”

Ychwanega fod angen “mwy o gysondeb a pherfformiad llawn” heno.

Bydd golwg360 yn dod â’r cyfan o’r gêm i chi.

 

21:18

Mae Montenegro’n dechrau sylweddoli bod y cloc yn tician. Ymosodiad ar yr asgell dde yn gorfodi Sorba Thomas i droseddu. Cic rydd, ond Thomas yn drech na’r cyfle. Joe Rodon a Josh Sheehan yn clirio’r gic gornel. 

21:16

Ben draw’r cae, Jovetic yn ergydio’n wyllt dros y trawst.

21:14

Thomas yn ei chanol hi o’r cychwyn cyntaf gyda chic gornel ac yna ergyd heibio’r postyn. Dechrau addawol ganddo fe, cyn i Neco Williams ergydio’n wyllt heibio’r postyn hefyd.

Dyw Cymru ddim yn mynd i fodloni ar un gôl heno.

21:12

Eilyddion i Gymru, gyda Nathan Broadhead a Sorba Thomas yn dod i’r cae yn lle Wes Burns a Harry Wilson.

Newidiadau positif gan Gymru, a bonllef haeddiannol o gymeradwyaeth i Wilson gan y Wal Goch, sy’n canu ei enw.

21:09

Trosedd ar Jankovic yn rhoi cyfle euraid i Montenegro o flaen y gôl, ond Jovetic yn gwastraffu’r cyfle gydag ergyd uchel a llydan.

66 munud ar y cloc. 1-0 i Gymru o hyd.

21:07

Mae Montenegro’n brwydro’n galed i unioni’r sgôr, ond mae Cymru’n barod am bopeth sy’n cael ei daflu atyn nhw ar hyn o bryd.

21:02

58 munud ar y cloc, a Joe Allen yn ôl ar y cae yn y crys coch!

Brooks sy’n dod oddi ar y cae.

21:02

Camgymeriad gan Nikic yn y gôl, ond Burns yn ergydio’n wyllt.

21:00

Cyfle i Montenegro!

Ergyd Radulovic wedi taro’r trawst – doedd fawr o obaith gan Darlow yn y gôl!

Trosedd ar Josh Sheehan yng nghanol cae wedyn, a cherdyn melyn arall.

20:57

Mae Montenegro yn dechrau dangos rhywfaint o rwystredigaeth bellach. Dau gerdyn melyn – y naill i Jovetic a’r llall i Vukcevic.