Cymru 1-0 Montenegro

Craig Bellamy yn cynnal ei rediad di-guro yn rheolwr ar Gymru

Bydd tîm pêl-droed Cymru’n croesawu Montenegro i Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Lun, Hydref 14), yn y gobaith o gynnal eu rhediad di-guro ers i Craig Bellamy gael ei benodi’n rheolwr.

Cawson nhw gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Reyjkavik yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener (Hydref 11), ac maen nhw bellach yn ddi-guro mewn tair gêm yn y gystadleuaeth.

Mae diolch mawr am hynny i Brennan Johnson, sydd bellach wedi sgorio saith gôl mewn saith gêm, ond mae e wedi’i wahardd heno yn dilyn cerdyn melyn nos Wener.

Bu’n rhaid i Gymru chwarae heb Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn Reykjavik oherwydd anafiadau sy’n parhau, a fydd Jordan James ddim ar gael chwaith gan fod yntau hefyd wedi’i wahardd yn sgil cerdyn melyn.

Dydy Joe Allen ddim yn holliach, er ei fod e wedi cyhoeddi tro pedol ar ei ymddeoliad gan ddychwelyd i’r garfan ryngwladol ar gyfer y gêm ddiwethaf.

Y gwrthwynebwyr

Un fydd ddim ar gael i Montenegro yw Milutin Osmajic, sydd wedi bod dan y lach yn ddiweddar am frathu’r Cymro Owen Beck mewn gêm rhwng Preston a Blackburn.

Mae’r gŵr o Montenegro wedi’i wahardd am wyth gêm yn sgil y digwyddiad yn Deepdale fis diwethaf.

Mae ei dîm cenedlaethol ar waelod y grŵp, a dydyn nhw ddim wedi ennill yr un pwynt eto.

Twrci sydd ar y brig, gyda saith pwynt hyd yn hyn.

Bydd Cymru’n teithio i’r wlad honno fis nesaf, ac mae ganddyn nhw bum pwynt hyd yma, gyda Gwlad yr Iâ y tu ôl iddyn nhw ar bedwar.

Byddai cipio’r ail safle yn golygu gêm ail gyfle i dîm Craig Bellamy fis Mawrth nesaf.

Chwarae am 90 munud cyfan

Yn ôl Iwan Roberts ar raglen Sgorio, mae’n hanfodol bod Cymru’n chwarae’n gystadleuol am 90 munud cyfan.

“Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn yn yr hanner cyntaf yn erbyn Twrci, ond yn yr ail hanner roeddwn i’n meddwl bo ni ddim hanner cystal,” meddai.

“Doedden ni ddim yn edrych fel sgorio, doeddwn i ddim yn meddwl, ac roedden nhw i lawr i ddeg o chwaraewyr.

“Yn erbyn Montenegro [fis diwethaf], roeddwn i’n meddwl ein bod ni braidd yn ffodus i ddod o ’na efo’r triphwynt, i ddweud y gwir.

“Os wyt ti’n edrych ar y cyfleon gafodd Montenegro… gaethon nhw gyfleoedd da i sgorio mwy nag un gôl.”

Ychwanega fod angen “mwy o gysondeb a pherfformiad llawn” heno.

Bydd golwg360 yn dod â’r cyfan o’r gêm i chi.

 

20:48

Os oedd angen tanlinellu dominyddiaeth Cymru yn yr hanner cyntaf, mae Montenegro wedi gwneud pedwar newid ar yr egwyl.

20:32

HANNER AMSER: Cymru 1-0 Montenegro

Mae’r ffaith na fu sôn am Karl Darlow hyd yma’n awgrymu dominyddiaeth Cymru yn yr hanner cyntaf, gyda 74% o’r meddiant, ond mae ambell gyffyrddiad llac yn yr eiliadau olaf yma wedi gorfodi’r golwr i glirio’r bêl dan bwysau.

Ond bydd Craig Bellamy yn hapus iawn ar y cyfan â’r perfformiad hyd yma.

20:28

Cyfres o basys llac gan Montenegro’n rhoi hanner cyfle i Gymru, ond pêl drwodd gan Cullen yn methu canfod y blaenwyr eraill.

20:27

Wilson yn ei chanol hi unwaith eto ar ôl 41 munud, gyda’i ergyd yn mynd heibio’r postyn. Mae’r ymosodwr ar dân heno!

20:20

1-0!

… Wilson yn sgorio!!! Y Cymro cyntaf ers Gareth Bale yn Ewro 2016 i sgorio mewn tair gêm o’r bron.

Cymru 1-0 Montenegro ar ôl 35 munud.

Yr ergyd yn anfon Nikic y ffordd anghywir, a Chymru’n cipio gôl haeddiannol.

20:19

CIC O’R SMOTYN!

Wilson wedi’i lorio gan Jovovic…

20:18

Ymosodiad arall gan Brooks yn ei weld e’n canfod ei ffordd i ymyl y cwrt cosbi, a’i ergyd yn gorfodi Nikic i arbed unwaith eto.

Mae Brooks wedi disgleirio hyd yma.

20:15

Rhediad cryf gan Burns i lawr yr ochr chwith unwaith eto, croesiad da i mewn i’r cwrt chwech, ond y dyfarnwr yn atal y chwarae yn sgil anaf i un o chwaraewyr Montenegro.

Bron i hanner awr wedi mynd, a Chymru’n mynd o nerth i nerth. Mae’r ymosod yn sicr yn asio, a digon o wasanaeth iddyn nhw o’r cefn yn yr hanner awr agoriadol. Ond yn bwysicaf oll, mae’n dal i fod yn ddi-sgôr.

20:11

Wilson yn bygwth i lawr yr ochr dde unwaith eto i roi hanner cyfle i Mark Harris, ond Montenegro’n clirio’r bêl.

26 munud wedi’u chwarae, a Chymru’n dal i geisio’u gôl gyntaf. Ond am ba hyd?

20:09

Pêl letraws gan Brooks i lwybr Burns yn ofer.

Mae Cymru wedi cael bron i 80% o’r meddiant hyd yma.