Morgannwg v Swydd Gaerloyw: Gêm ola’r tymor criced, a buddugoliaeth i’r sir Gymreig

Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, wedi curo Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Bydd Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, yn croesawu Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, i Erddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Bencampwriaeth ola’r tymor heddiw (dydd Iau, Medi 26).

Yn hytrach na phêl wen y gemau undydd, gêm bêl goch sy’n cloi’r tymor.

Yn gynharach y tymor hwn, daeth y gêm gyfatebol yn Cheltenham i ben yn gyfartal, ar ôl i Forgannwg sgorio 592 yn eu hail fatiad, gyda Sam Northeast a Marnus Labuschagne yn taro canred yr un.

Byddai un rhediad arall wedi torri record byd am gwrso’r nod mwyaf erioed mewn gêm dosbarth cyntaf yn unrhyw le yn y byd.

Gemau’r gorffennol

Aeth y ddwy sir benben â’i gilydd yng ngêm agoriadol tymor 2023, wrth i Kiran Carlson a Billy Root daro canred yr un i roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 223 i Forgannwg.

Wrth i’r amodau batio fynd yn haws wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, sgoriodd yr Awstraliad Marcus Harris 148.

Roedd Swydd Gaerloyw ar y blaen o 134 o rediadau gyda phum wiced wrth gefn ar ddechrau’r diwrnod olaf, a tharodd y capten Graeme van Buuren ganred, gyda Tom Price hefyd yn taro hanner canred, i roi’r Saeson ar y blaen o 330 cyn cau eu batiad ar drothwy amser te.

Mae Swydd Gaerloyw wedi ennill tair allan o’r pum gêm Bencampwriaeth ddiwethaf yng Nghaerdydd, gan ennill o ddeg wiced yn 2021 – er i David Lloyd a Hamish Rutherford adeiladu parnteriaeth agoriadol o 136 i’r sir Gymreig – wrth i Zafar Gohar gipio chwe wiced am 43 wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 124.

Cipiodd Craig Miles wth wiced a tharodd Jack Taylor 112 i Swydd Gaerloyw yn 2018 i selio’r fuddugoliaeth, ac roedden nhw’n gyfartal yn 2017 wrth i Kiran Carlson daro 191 – byddai naw rhediad arall wedi torri record am y batiwr ieuengaf erioed yn hanes Morgannwg i sgorio canred a chanred dwbwl.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerloyw mewn gêm pedwar diwrnod yng Nghaerdydd ers 2013, wrth iddyn nhw ennill o wyth wiced diolch i bedair wiced ac 85 i Jim Allenby.

Tarodd Chris Cooke a Murray Goodwin hanner canred yr un i sicrhau’r bedwaredd buddugoliaeth o’r bron yng Nghymru i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw, gyda’r buddugoliaethau blaenorol wedi dod yn 2012, 2011 a 2010.

Cerrig milltir

Wrth i’r tymor ddirwyn i ben, gallai Morgannwg orffen ar waelod y tabl ar ôl ymgyrch siomedig yn y Bencampwriaeth.

Ond mae gan unigolion gyfle o hyd i gyrraedd cerrig milltir y tymor hwn.

Mae Sam Northeast (940) a Kiran Carlson (922) yn closio at 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn 2024.

Mae Colin Ingram eisoes wedi cyrraedd y nod, a dyma fyddai’r tro cyntaf i dri batiwr o Forgannwg sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor ers 2011.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), J Shaw, C Dent, J Phillips, J Bracey, A Bailey, M Taylor, A Singh Dale, T Price, E Middleton, O Price, Zafar Gohar, M Hammond

17:21

WICED!

Matt Taylor wedi’i ddal gan Kellaway oddi ar ei fowlio’i hun am wyth.

Swydd Gaerloyw 184 am wyth.

Dwy wiced sydd eu hangen ar Forgannwg i ennill yr ornest – mae angen 198 o rediadau o hyd ar yr ymwelwyr.

Ajeet Singh Dale yw’r batiwr newydd.

17:10

WICED!

Zafar Gohar wedi’i fowlio gan Ben Kellaway am chwech.

Swydd Gaerloyw 174 am saith, ac mae angen 208 arall arnyn nhw i ennill.

Matt Taylor yw’r batiwr newydd.

16:41

WICED!

Mae Swydd Gaerloyw wedi colli eu chweched wiced, gyda’r sgôr yn 151.

Timm van der Gugten sydd wedi’i chipio hi, wrth daro Tom Price ar ei goes o flaen y wiced am ddeg.

Mae angen 231 arall ar yr ymwelwyr i ennill, a phedair wiced sydd eu hangen ar Forgannwg.

Gyda 29.1 pelawd yn weddill heno, mae gobaith y gallai’r ornest ddod i ben cyn diwedd y dydd.

Zafar Gohar yw’r batiwr newydd.

16:12

WICED!

Graeme van Buuren wedi’i fowlio gan Gorvin am naw.

Swydd Gaerloyw 133 am bump, ac mae angen 249 arall arnyn nhw i ennill.

Pum wiced sydd eu hangen ar Forgannwg, gyda 35.4 pelawd yn weddill heno – gyda thywydd garw ar y gorwel fory, byddan nhw’n awyddus i gau pen y mwdwl ar yr ornest heno os gallan nhw.

15:31

TE, Diwrnod 3

Swydd Gaerloyw 111 am bedair, ac mae angen 271 arall arnyn nhw i ennill.

15:22

WICED!

Joe Phillips wedi’i fowlio gan Gorvin am 64.

Swydd Gaerloyw 107 am bedair, ac mae angen 275 arall arnyn nhw i ennill.

James Bracey a Graeme van Buuren sydd wrth y llain i’r ymwelwyr erbyn hyn.

15:02

WICED!

Miles Hammond wedi’i ddal ar y ffin yn sgwâr ar ochr y goes gan Will Smale am 20.

Wiced i Ned Leonard.

Swydd Gaerloyw 92 am dair, ac mae angen 290 arall arnyn nhw i ennill wrth i James Bracey gamu i’r llain.

14:52

Hanner canred i Joe Phillips oddi ar 90 o belenni, gyda chwe phedwar.

Swydd Gaerloyw 84 am ddwy, ac mae angen 298 arall arnyn nhw i ennill.

14:12

WICED!

Ollie Price wedi’i fowlio gan Andy Gorvin am 13.

Swydd Gaerloyw 46 am ddwy.

Mae angen 336 arall arnyn nhw i ennill.

13:44

Swydd Gaerloyw 31 am un.

Maen nhw’n cwrso 382 i ennill, felly mae angen 351 arall arnyn nhw i gipio’r fuddugoliaeth. Naw wiced sydd eu hangen ar Forgannwg.