Morgannwg v Swydd Gaerloyw: Gêm ola’r tymor criced, a buddugoliaeth i’r sir Gymreig

Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, wedi curo Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Bydd Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, yn croesawu Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, i Erddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Bencampwriaeth ola’r tymor heddiw (dydd Iau, Medi 26).

Yn hytrach na phêl wen y gemau undydd, gêm bêl goch sy’n cloi’r tymor.

Yn gynharach y tymor hwn, daeth y gêm gyfatebol yn Cheltenham i ben yn gyfartal, ar ôl i Forgannwg sgorio 592 yn eu hail fatiad, gyda Sam Northeast a Marnus Labuschagne yn taro canred yr un.

Byddai un rhediad arall wedi torri record byd am gwrso’r nod mwyaf erioed mewn gêm dosbarth cyntaf yn unrhyw le yn y byd.

Gemau’r gorffennol

Aeth y ddwy sir benben â’i gilydd yng ngêm agoriadol tymor 2023, wrth i Kiran Carlson a Billy Root daro canred yr un i roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 223 i Forgannwg.

Wrth i’r amodau batio fynd yn haws wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, sgoriodd yr Awstraliad Marcus Harris 148.

Roedd Swydd Gaerloyw ar y blaen o 134 o rediadau gyda phum wiced wrth gefn ar ddechrau’r diwrnod olaf, a tharodd y capten Graeme van Buuren ganred, gyda Tom Price hefyd yn taro hanner canred, i roi’r Saeson ar y blaen o 330 cyn cau eu batiad ar drothwy amser te.

Mae Swydd Gaerloyw wedi ennill tair allan o’r pum gêm Bencampwriaeth ddiwethaf yng Nghaerdydd, gan ennill o ddeg wiced yn 2021 – er i David Lloyd a Hamish Rutherford adeiladu parnteriaeth agoriadol o 136 i’r sir Gymreig – wrth i Zafar Gohar gipio chwe wiced am 43 wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 124.

Cipiodd Craig Miles wth wiced a tharodd Jack Taylor 112 i Swydd Gaerloyw yn 2018 i selio’r fuddugoliaeth, ac roedden nhw’n gyfartal yn 2017 wrth i Kiran Carlson daro 191 – byddai naw rhediad arall wedi torri record am y batiwr ieuengaf erioed yn hanes Morgannwg i sgorio canred a chanred dwbwl.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerloyw mewn gêm pedwar diwrnod yng Nghaerdydd ers 2013, wrth iddyn nhw ennill o wyth wiced diolch i bedair wiced ac 85 i Jim Allenby.

Tarodd Chris Cooke a Murray Goodwin hanner canred yr un i sicrhau’r bedwaredd buddugoliaeth o’r bron yng Nghymru i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw, gyda’r buddugoliaethau blaenorol wedi dod yn 2012, 2011 a 2010.

Cerrig milltir

Wrth i’r tymor ddirwyn i ben, gallai Morgannwg orffen ar waelod y tabl ar ôl ymgyrch siomedig yn y Bencampwriaeth.

Ond mae gan unigolion gyfle o hyd i gyrraedd cerrig milltir y tymor hwn.

Mae Sam Northeast (940) a Kiran Carlson (922) yn closio at 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn 2024.

Mae Colin Ingram eisoes wedi cyrraedd y nod, a dyma fyddai’r tro cyntaf i dri batiwr o Forgannwg sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor ers 2011.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), J Shaw, C Dent, J Phillips, J Bracey, A Bailey, M Taylor, A Singh Dale, T Price, E Middleton, O Price, Zafar Gohar, M Hammond

12:57

Mwy am benderfyniad Prem Sisodiya i ymddeol.

Daeth y troellwr llaw chwith o Gaerdydd drwy rengoedd Morgannwg, gan gynrychioli Lloegr dan 19 yng Nghwpan y Byd yn 2019. Bu’n chwarae i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Daeth ei gêm gyntaf i Forgannwg yn erbyn Swydd Derby yn Abertawe yn 2018, ac fe chwaraeodd e 51 o gemau i’r sir. Daeth yn arbenigwr ar agor y bowlio mewn gemau ugain pelawd.

Dywed Sisodiya fod ymddeol yn “benderfyniad anodd iawn”, ac mae’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace yn dweud ei fod yn “llysgennad gwych” i’r clwb ac yn “chwaraewr talentog ac anhunanol ar y cae”.

Cyhoeddodd y bowliwr cyflym Harry Podmore yn gynharach y tymor hwn fod yntau hefyd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

12:40

CINIO, Diwrnod 3

Swydd Gaerloyw 22 am un, yn cwrso 382 i ennill.

12:13

WICED!

Dent wedi’i ddal gan Colin Ingram oddi ar fowlio Ned Leonard.

Swydd Gaerloyw saith am un.

11:58

Chris Dent a Joe Phillips sy’n agor y batio i Swydd Gaerloyw.

382 yw’r nod.

82 pelawd i ddod heddiw.

11:49

DIWEDD Y BATIAD

Canred i Chris Cooke (101 hfa) gyda dwy ergyd chwech yn olynol.

Daeth ei ganred oddi ar 121 o belenni, gyda deg pedwar a thri chwech.

Mae Morgannwg wedi cau eu batiad ar 381 am bedair.

Sam Northeast 64hfa.

Mae Swydd Gaerloyw wedi ildio’u batiad cyntaf, Morgannwg wedi ildio’u hail fatiad, ac felly bydd Swydd Gaerloyw’n cwrso 382 i ennill.

11:41

Wrth gyrraedd 63 heb fod allan, mae Sam Northeast bellach wedi sgorio 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn.

11:26

Hanner canred i Sam Northeast.

Morgannwg 338 am bedair.

11:07

Prem Sisodiya

Mae Prem Sisodiya, troellwr llaw chwith Morgannwg, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad. Mewn datganiad, dywed mai nawr yw’r amser iawn i gamu i ffwrdd o’r cae chwarae, ond ei fod yn gobeithio cyfrannu mewn ffyrdd eraill.

10:57

DIWRNOD 3

Hanner canred i Chris Cooke.

Morgannwg 305 am bedair.

17:56

DIWEDD, Diwrnod 2

Morgannwg 283 am bedair (Ingram 84, Tribe 70).

Y glaw wedi dod â’r chwarae i ben yn gynnar.