Morgannwg v Swydd Gaerloyw: Gêm ola’r tymor criced, a buddugoliaeth i’r sir Gymreig

Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, wedi curo Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Bydd Morgannwg, pencampwyr Cwpan Undydd Metro Bank, yn croesawu Swydd Gaerloyw, pencampwyr y Vitality Blast, i Erddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Bencampwriaeth ola’r tymor heddiw (dydd Iau, Medi 26).

Yn hytrach na phêl wen y gemau undydd, gêm bêl goch sy’n cloi’r tymor.

Yn gynharach y tymor hwn, daeth y gêm gyfatebol yn Cheltenham i ben yn gyfartal, ar ôl i Forgannwg sgorio 592 yn eu hail fatiad, gyda Sam Northeast a Marnus Labuschagne yn taro canred yr un.

Byddai un rhediad arall wedi torri record byd am gwrso’r nod mwyaf erioed mewn gêm dosbarth cyntaf yn unrhyw le yn y byd.

Gemau’r gorffennol

Aeth y ddwy sir benben â’i gilydd yng ngêm agoriadol tymor 2023, wrth i Kiran Carlson a Billy Root daro canred yr un i roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 223 i Forgannwg.

Wrth i’r amodau batio fynd yn haws wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, sgoriodd yr Awstraliad Marcus Harris 148.

Roedd Swydd Gaerloyw ar y blaen o 134 o rediadau gyda phum wiced wrth gefn ar ddechrau’r diwrnod olaf, a tharodd y capten Graeme van Buuren ganred, gyda Tom Price hefyd yn taro hanner canred, i roi’r Saeson ar y blaen o 330 cyn cau eu batiad ar drothwy amser te.

Mae Swydd Gaerloyw wedi ennill tair allan o’r pum gêm Bencampwriaeth ddiwethaf yng Nghaerdydd, gan ennill o ddeg wiced yn 2021 – er i David Lloyd a Hamish Rutherford adeiladu parnteriaeth agoriadol o 136 i’r sir Gymreig – wrth i Zafar Gohar gipio chwe wiced am 43 wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 124.

Cipiodd Craig Miles wth wiced a tharodd Jack Taylor 112 i Swydd Gaerloyw yn 2018 i selio’r fuddugoliaeth, ac roedden nhw’n gyfartal yn 2017 wrth i Kiran Carlson daro 191 – byddai naw rhediad arall wedi torri record am y batiwr ieuengaf erioed yn hanes Morgannwg i sgorio canred a chanred dwbwl.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Gaerloyw mewn gêm pedwar diwrnod yng Nghaerdydd ers 2013, wrth iddyn nhw ennill o wyth wiced diolch i bedair wiced ac 85 i Jim Allenby.

Tarodd Chris Cooke a Murray Goodwin hanner canred yr un i sicrhau’r bedwaredd buddugoliaeth o’r bron yng Nghymru i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw, gyda’r buddugoliaethau blaenorol wedi dod yn 2012, 2011 a 2010.

Cerrig milltir

Wrth i’r tymor ddirwyn i ben, gallai Morgannwg orffen ar waelod y tabl ar ôl ymgyrch siomedig yn y Bencampwriaeth.

Ond mae gan unigolion gyfle o hyd i gyrraedd cerrig milltir y tymor hwn.

Mae Sam Northeast (940) a Kiran Carlson (922) yn closio at 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn 2024.

Mae Colin Ingram eisoes wedi cyrraedd y nod, a dyma fyddai’r tro cyntaf i dri batiwr o Forgannwg sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor ers 2011.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), J Shaw, C Dent, J Phillips, J Bracey, A Bailey, M Taylor, A Singh Dale, T Price, E Middleton, O Price, Zafar Gohar, M Hammond

10:23

Tra ein bod ni’n aros am newyddion o Erddi Sophia, mae gwefan BBC Sport wedi cyhoeddi’r unarddeg sydd wedi cyrraedd Tîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth yn dilyn pleidlais ymhlith darllenwyr y wefan. Yn yr unarddeg mae Colin Ingram, batiwr Morgannwg, sydd hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

09:45

Fe fu rhagor o law dros nos cyn dechrau’r ail ddiwrnod, felly bydd y dyfarnwyr yn archwilio’r cae am 10.15yb.

13:44

12:56

Fydd dim criced heddiw gan fod y cae wedi’i wlychu gan y glaw dros nos.

11:27

Bydd cinio cynnar am 12 o’r gloch, ac archwiliad pellach o’r cae am 12.30yp.

11:25

Os ydych chi yng Nghaerdydd ac yn chwilio am rywbeth i’w wneud wrth aros i’r criced ddechrau, beth am ymweld â siop Masuri yng Ngerddi Sophia, lle cewch chi weld tlws cystadleuaeth Cwpan Undydd Metro Bank gafodd ei ennill gan Forgannwg ddechrau’r wythnos?

11:24

Mae Colin Ingram, batiwr tramor Morgannwg, wedi’i enwi ar y rhestr fer ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA). Hefyd ar y rhestr mae Joe Root (Swydd Efrog), Gus Atkinson (Surrey) a Liam Dawson (Hampshire).

10:45

Bydd archwiliad o’r cae am 11.10yb.

Mae tipyn o law wedi cwympo dros nos, gan wlychu cyrion y cae.

10:08

Fydd y gêm ddim yn dechrau am 10.30 oherwydd y tywydd.

Diweddariad pellach pan fydd rhagor o newyddion.