Rhagflas:
Mae tîm criced Morgannwg un fuddugoliaeth i ffwrdd o godi Cwpan Undydd Metro Bank, wrth iddyn nhw herio Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham heddiw (dydd Sul, Medi 22).
Gyda’r gystadleuaeth 50 pelawd hon fel pe bai wedi cael ei hisraddio eleni o ganlyniad i’r Can Pelen, mae Morgannwg wedi penderfynu peidio dewis Chris Cooke a Mason Crane ar gyfer y rownd derfynol ar ôl iddyn nhw ddychwelyd o’r twrnament.
Yn hytrach, mae Morgannwg wedi dangos ffydd yn y rhai sydd wedi eu helpu nhw i gyrraedd y rownd derfynol, gan gynnwys nifer o’r to iau addawol sydd wedi torri trwodd eleni – yn eu plith mae’r troellwr llaw dde a chwith Ben Kellaway.
Un absenoldeb amlwg yw Eddie Byrom, sydd wedi bod allan ag anaf ers cryn amser, ac a fydd yn colli gweddill y tymor.
O safbwynt Gwlad yr Haf, dydy Tom Banton na Craig Overton ddim ar gael oherwydd anafiadau, ond mae disgwyl i’r troellwr llaw chwith Jack Leach chwarae yn ei gêm derfynol gyntaf erioed.
Does dim amheuaeth mai Morgannwg a Gwlad yr Haf yw dau o dimau gorau’r twrnament eleni, ac maen nhw’n sicr yn haeddu eu lle yn y rownd derfynol, gyda’r sir Gymreig wedi ennill wyth allan o naw gêm yn eu grŵp.
Mae’r batwyr a’r bowlwyr, fel ei gilydd, wedi helpu’r sir i gyrraedd y ffeinal, wrth iddyn nhw anelu i godi’r tlws am yr ail waith mewn pedwar tymor, ar ôl ennill y gystadleuaeth hon yn 2021.
Ond os oes modd credu rhagolygon y tywydd, gallai’r elfennau fod yn drech na’r ddau dîm.
Diddanu
Ychydig iawn o dlysau enillodd Clwb Criced Morgannwg dros y blynyddoedd.
Gyda phob tlws, daw torf newydd o gefnogwyr i ymfalchïo yn llwyddiannau’r sir.
Ac mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg yn anelu i ddiddanu’r dorf pan fyddan nhw’n heidio i Trent Bridge.
Bu cryn dipyn o sôn yn ddiweddar am is-raddio’r gystadleuaeth 50 pelawd hon yn sgil y Can Pelen.
Ond i Forgannwg, yn absenoldeb ambell chwaraewr profiadol fel Chris Cooke a Mason Crane, daeth cyfle i ddatblygu rhai o’r to iau.
Mae nifer ohonyn nhw, gan gynnwys y troellwr amryddawn llaw dde a chwith, Ben Kellaway o Gas-gwent, wedi achub ar y cyfle.
Er gwaetha’r absenoldebau, a’r rhestr hir o anafiadau ar adegau, mae Morgannwg yn sicr wedi diddanu’r dorf.
“Rydyn ni’n ysu i gael penolau ar seddi ac i ddiddanu gyda brand deinamig o griced,” meddai Grant Bradburn.
“Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n arddangos brand o griced rydyn ni’n browd iawn ohono fe.”
Cael a chael weithiau
Mae Morgannwg yn sicr wedi darparu digon o ddiddanwch i’r dorf yn ystod yr ymgyrch, ond fe fu digon o nerfau ar adegau hefyd gyda sawl gêm agos iawn – nid lleiaf y gêm gyn-derfynol yn erbyn Swydd Warwick.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, roedd Morgannwg yn 90 am bump o fewn 26 pelawd, cyn i’r seren ddisglair Dan Douthwaite daro 55 heb fod allan, Colin Ingram 47 a Billy Root 46. Llwyddon nhw i gyrraedd 247 am naw, ond doedd hi ddim yn edrych fel pe bai hynny am fod yn ddigon.
Cafodd Swydd Warwick yr amodau’r un mor anodd i fatio ynddyn nhw, fel eu bod nhw hefyd mewn trafferthion mawr ar 62 am chwech, er i Michael Burgess daro 85 a Michael Booth 35 wedyn. Cipiodd Douthwaite ddwy wiced am 37 mewn naw pelawd, ac ennill o 39 rhediad oedd hanes Morgannwg yn y pen draw.
“Dw i’n falch iawn o’r ffordd mae’r chwaraewyr hŷn wedi rheoli’r broses o addasu i’r amodau rydyn ni’n canfod ein hunain ynddyn nhw, yn ogystal â gosod y weledigaeth a chyfathrebu drwy gydol y batiad.”
‘Dau wrthwynebydd ar adegau’
Wrth roi eu hunain dan bwysau ar adegau yn ystod y gystadleuaeth, mae Grant Bradburn yn teimlo y bu’n rhaid i Forgannwg wynebu dau wrthwynebydd – y tîm arall, a nhw eu hunain.
O safbwynt y batio, fe fu colli wicedi cynnar yn ddigwyddiad cyson, a bu’n rhaid dibynnu ar gyfraniadau unigolion yn is i lawr y rhestr fatio i sicrhau cyfanswm parchus yn y pen draw.
“Mae’r cyfnodau clatsio wedi bod yn anodd drwy gydol y gystadleuaeth.
“Rydyn ni wedi rhoi cryn bwyslais ar ganol y batiad a phara hyd y diwedd.
“Yn ddelfrydol, rydyn ni eisiau bod yn dîm sy’n rhoi 340 i 350 ar y bwrdd.
“Un peth sy’n ein gwahanu ni a thimau eraill yw fod gennym ni drefn fatio hir iawn. Mae Timm van der Gugten, wrth fatio rhif naw, yn dangos sut mae e’n gallu ein cael ni allan o sefyllfaoedd anodd.
“Rydyn ni wedi gorfod curo’n hunain weithiau hefyd.
“Doedd dim ots pwy oedden ni’n chwarae yn eu herbyn yn y rownd gyn-derfynol, a does dim ots pwy fyddwn ni’n eu herio yn y rownd derfynol. Mae pob tîm yn her fawr.
“Gwlad yr Haf [yw’r gwrthwynebwyr] fel mae’n digwydd, ond does dim ots wir.
“Pan ydyn ni’n chwarae, rydyn ni’n gwybod fod gennym ni’r gallu i chwarae criced o safon all ennill y gystadleuaeth hon.
“Byddwn ni’n myfyrio ar y gystadleuaeth hyd yn hyn ac yn dyfeisio cynllun ar gyfer Trent Bridge a’r amodau yno.
“Fyddwn ni ddim yn gadael unrhyw beth ar ôl yn y sach ar gyfer y rownd derfynol.
“Mae cyfle gwirioneddol haeddiannol yma i’r chwaraewyr, ac un peth fydd ddim gyda ni yw ofn herio unrhyw un yn y rownd derfynol.
“Mae’n bryd i ni ryddhau’r holl sgiliau.”
Mewn undod mae nerth
Cryfder unrhyw dîm sy’n ennill tlysau yw dyfnder y garfan.
Yn achos Morgannwg, sydd efallai’n brin o brofiad ar lawer ystyr, daeth y dyfnder hwnnw o roi cyfleoedd i’r to iau.
Yn sgil absenoldeb rhai chwaraewyr mwy profiadol, daeth cyfleoedd i chwaraewyr iau ddangos eu doniau ac i gyfrannu at ambell fuddugoliaeth.
“Bob yn dipyn, mae’r tîm hwn yn magu hyder yn nhermau cefnogi ei gilydd,” meddai Bradburn.
“Maen nhw wedi gweld amryw o wynebau’n camu i fyny ac yn perfformio er mwyn ennill gemau drwy gydol y gystadleuaeth. Mae hynny’n adeiladu cryn dipyn o ymddiriedaeth, mwynhad a pharch yn yr ystafell newid.
“Ond rydyn ni hefyd yn cefnogi ac yn hoffi’r ffaith fod gennym ni ddyfnder yn y garfan.
“Rydyn ni wedi cael cryn dipyn o anafiadau ac mae nifer o wynebau newydd yn y tîm undydd. Mae’n braf gallu eu cefnogi nhw a rhoi cyfleoedd iddyn nhw.
“Ar y cyfan, bydd hynny’n ein rhoi ni mewn sefyllfa gref at y dyfodol.”
Y seren ddisgleiriaf oll
Un sy’n sicr wedi gwella’r tymor hwn yw’r chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite, sydd wedi cipio 18 o wicedi yn ystod yr ymgyrch, gyda ffigurau gorau o bedair am 25 yn erbyn Swydd Gaerloyw.
Mae e hefyd wedi cyfrannu gyda’r bat, gyda hanner canred yn y golled yn erbyn Swydd Gaerlŷr, a hanner canred hollbwysig oddi ar 35 o belenni yn y fuddugoliaeth dros Swydd Warwick yn y rownd gyn-derfynol.
Dywed Dan Douthwaite nad oes gan Forgannwg “ddim byd i’w golli” heddiw, ac mae’n ysu i achub ar y cyfle i chwarae rhan yn y ffeinal eleni.
“Efallai nad oedden ni’n un o’r timau cryfaf pan gafodd Morgannwg ein heffeithio gan y Can Pelen, ond dw i ddim eisiau i ni deimlo fel underdogs chwaith.
“Byddwn ni’n mynd yno, yn gwthio’r frest allan ac yn credu y gallwn ni guro pwy bynnag fydd yn troi i fyny ar y diwrnod.
“Y tro diwethaf i ni chwarae yn erbyn Gwlad yr Haf [yng Nghaerdydd], fe wnaethon ni ddangos pw ydyn ni, felly gobeithio y gallwn ni wneud hynny eto, a bydd y rownd derfynol yn rhywbeth i ni ei thargedu ac edrych ymlaen ati.”
- Dilynwch ein blog byw o Trent Bridge drwy gydol y dydd i gael y diweddaraf o’r gêm.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), S Northeast, T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten
Carfan Gwlad yr Haf: S Dickson (capten), G Thomas, A Umeed, L Goldsworthy, J Rew, J Thomas, A Vaughan, B Green, K Aldridge, J Davey, A Ogborne, N Leonard, J Leach, Shoaib Bashir, J Heywood
Yn ôl y rhagolygon, gallai’r glaw ddechrau cilio’n iawn erbyn tua 2 o’r gloch. Ond mae’n sicr yn ysgafnach erbyn hyn.
Dyma’r olygfa ar y cae erbyn hyn. Fawr neb allan yno ar y funud (dim syndod, chwaith!).
Mae’n debyg fod yr awdurdodau’n awyddus i drio gorffen y gêm heddiw. 4 o’r gloch yw’r amser allweddol, felly.
Ond mae’r glaw yn drymach nawr nag yr oedd awr yn ôl.
Mae dau ddiwrnod ar gael i orffen y gêm.
Os na fydd modd gorffen y gêm fory (hynny yw, chwarae o leiaf ugain pelawd o fatiad y tîm sy’n batio’n ail), bydd Morgannwg a Gwlad yr Haf yn rhannu’r tlws.
Parhad o’r gêm fydd fory – hynny yw, os caiff ugain pelawd eu bowlio heddiw, bydd fory’n dechrau gyda’r unfed belawd ar hugain. Fydd dim rhaid dechrau o’r dechrau.
Cadarnhad, os oedd ei angen, na fydd y gêm yn dechrau am 11.
Diweddariad pellach pan fydd rhywbeth i’w ddweud.
Bore da o Nottingham hynod wlyb. Fe ddown ni â newyddion i chi pan allwn ni, ond mae’n anochel na fydd yr ornest yn dechrau fore heddiw. Gawn ni weld faint o griced fydd yn bosib – ond cofiwch, mae yna ddiwrnod wrth gefn fory.