Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

15:38

TE, Diwrnod 2

Morgannwg 231 am wyth, ar ei hôl hi o 130.

15:27

Mae Gorvin a Harris bellach wedi adeiladu partneriaeth dros 50.

Morgannwg 223 am wyth, ar ei hôl hi o 138, ac yn brwydro’n galed i leihau’r diffyg sydd ganddyn nhw.

15:16

Fydd Morgannwg ddim yn canlyn ymlaen, ar ôl iddyn nhw gyrraedd 212 am wyth. Ond maen nhw’n dal ar ei hôl hi o 149.

14:51

Morgannwg 188 am wyth, ar ei hôl hi o 173, gyda James Harris ac Andy Gorvin wrth y llain. Mae angen 24 arall arnyn nhw i osgoi gorfod canlyn ymlaen.

14:22

WICED!

Ac mae’n wiced fawr.

Ingram wedi’i fowlio gan y troellwr Dom Bess am 82.

Morgannwg 172 am wyth, ar ei hôl hi o 189.

Andy Gorvin sy’n dod i’r llain i ymuno â James Harris.

14:04

WICED!

Chwip o ddaliad gan y wicedwr Bairstow i waredu Crane am 29. Wiced i Jordan Thompson.

Morgannwg 161 am saith.

13:46

Mae Ingram (70hfa) a Crane (25hfa) bellach wedi adeiladu partneriaeth dros 50.

Morgannwg 152 am chwech, ar ei hôl hi o 209.

13:35

Mae Morgannwg wedi sgorio’n gyflym ers amser cinio, diolch yn bennaf i Colin Ingram sydd wedi cynnig sefydlogrwydd ac yn mynd amdani nawr wrth i’w dîm geisio osgoi gorfod canlyn ymlaen.

131 am chwech (Ingram 62 heb fod allan), ar ei hôl hi o 230.

13:22

Hanner canred i Colin Ingram, gydag ergyd am bedwar – ei nawfed – oddi ar fowlio Fisher. Mae e wedi wynebu 79 pelen.

Morgannwg 119 am chwech, ar ei hôl hi o 242.

13:12

Ar ôl cinio, Mason Crane sydd wedi dod i’r llain i ymuno â Colin Ingram. Gallai hon fod yn sesiwn dyngedfennol i Forgannwg, sy’n 98 am chwech ac ar ei hôl hi o 263.