Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

11:18

Mae rhywun yn teimlo mai yn nwylo Ingram a Cooke mae eu gobeithion o osgoi canlyn ymlaen bellach. Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, gallai’r ornest hon ddod i ben yn gynnar iawn.

Un peth sy’n ei gwneud hi’n anodd i fatwyr Morgannwg, yn enwedig Chris Cooke fel un sy’n batio’n isel yn y rhestr, yw gorfod wynebu pêl sy’n gymharol newydd.

11:11

WICED!

Kellaway wedi’i ddal gan y wicedwr Jonny Bairstow oddi ar fowlio Ben Coad am bedwar.

Morgannwg 37 am bedair, a’u batiad yn mynd o ddrwg i waeth. Chris Cooke sy’n ymuno ag Ingram wrth y llain.

10:55

WICED!

Dwy mewn dwy belen. Carlson wedi’i ddal yn y slip gan Hill. Bron yn union yr un math o belen.

Morgannwg 28 am dair.

Ben Kellaway yw’r batiwr newydd, ac mae’r sir Gymreig eisoes mewn rhywfaint o drafferth.

10:53

WICED!

Tribe wedi’i ddal yn y slip gan Adam Lyth oddi ar fowlio Matthew Fisher am bedwar.

Ergyd wael wrth yrru pelen lydan.

Kiran Carlson sydd wrth y llain.

Morgannwg 28 am ddwy.

10:41

WICED!

Northeast allan, â’i goes o flaen y wiced. Ben Coad â’r wiced.

Morgannwg 16 am un.

Colin Ingram yw’r batiwr newydd.

10:31

DIWRNOD 2

Mae Morgannwg yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 12 heb golli wiced, ar ei hôl hi o 349.

Asa Tribe a Sam Northeast sy’n batio.

18:02

DIWEDD, Diwrnod 1

Morgannwg 12 heb golli wiced, ar ei hôl hi o 349 rhediad.

Swydd Efrog 361 i gyd allan – George Hill 90, James Wharton 63, Dom Bess 50). Pedair wiced i Andy Gorvin (4-67)

15:32

TE, Diwrnod 1

Swydd Efrog 243 am bump (Wharton 63).

Tair wiced i Andy Gorvin.

12:34

CINIO, Diwrnod 1

Swydd Efrog 100 am ddwy.

Dwy wiced i Andy Gorvin. Adam Lyth (46) a Finlay Bean (23) allan.

James Wharton (11 heb fod allan) a Jonny Tattersall (12 heb fod allan) wrth y llain i’r ymwelwyr.

10:16

Dilynwch bob pelen ar y sgorfwrdd