Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

12:29

CINIO A WICED!

Timm van der Gugten â’i goes o flaen y wiced i Fisher am naw.

Morgannwg 98 am chwech, ar ei hôl hi o 263.

Ingram 41 heb fod allan.

12:07

WICED!

Mae’r bartneriaeth fawr ar ben.

Ergyd wyllt unwaith eto – Cooke allan, wedi’i ddal gan Bairstow oddi ar fowlio Fisher am 20. Trydedd wiced y bowliwr.

Trafferthion Morgannwg yn parhau ar 86 am bump, ar ei hôl hi o 275 o hyd.

Timm van der Gugten yw’r batiwr newydd.

11:52

Mae Cooke ac Ingram wedi llwyddo i ddyblu sgôr Morgannwg ers iddyn nhw ddod ynghyd ar 37 am bedair.

Maen nhw bellach yn 76 am bedair ac yn edrych dipyn mwy cyfforddus erbyn hyn, ond dydy’r trafferthion ddim y tu ôl iddyn nhw eto o bell ffordd.

11:18

Mae rhywun yn teimlo mai yn nwylo Ingram a Cooke mae eu gobeithion o osgoi canlyn ymlaen bellach. Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, gallai’r ornest hon ddod i ben yn gynnar iawn.

Un peth sy’n ei gwneud hi’n anodd i fatwyr Morgannwg, yn enwedig Chris Cooke fel un sy’n batio’n isel yn y rhestr, yw gorfod wynebu pêl sy’n gymharol newydd.

11:11

WICED!

Kellaway wedi’i ddal gan y wicedwr Jonny Bairstow oddi ar fowlio Ben Coad am bedwar.

Morgannwg 37 am bedair, a’u batiad yn mynd o ddrwg i waeth. Chris Cooke sy’n ymuno ag Ingram wrth y llain.

10:55

WICED!

Dwy mewn dwy belen. Carlson wedi’i ddal yn y slip gan Hill. Bron yn union yr un math o belen.

Morgannwg 28 am dair.

Ben Kellaway yw’r batiwr newydd, ac mae’r sir Gymreig eisoes mewn rhywfaint o drafferth.

10:53

WICED!

Tribe wedi’i ddal yn y slip gan Adam Lyth oddi ar fowlio Matthew Fisher am bedwar.

Ergyd wael wrth yrru pelen lydan.

Kiran Carlson sydd wrth y llain.

Morgannwg 28 am ddwy.

10:41

WICED!

Northeast allan, â’i goes o flaen y wiced. Ben Coad â’r wiced.

Morgannwg 16 am un.

Colin Ingram yw’r batiwr newydd.

10:31

DIWRNOD 2

Mae Morgannwg yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 12 heb golli wiced, ar ei hôl hi o 349.

Asa Tribe a Sam Northeast sy’n batio.

18:02

DIWEDD, Diwrnod 1

Morgannwg 12 heb golli wiced, ar ei hôl hi o 349 rhediad.

Swydd Efrog 361 i gyd allan – George Hill 90, James Wharton 63, Dom Bess 50). Pedair wiced i Andy Gorvin (4-67)