Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).
Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.
Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.
Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.
Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.
Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.
Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.
Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.
Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.
Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.
Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten
Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton