Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

Blog byw – bydd diweddariadau yn ymddangos isod.

18:04

WICED!

James Harris wedi taro coes Adam Lyth (55) o flaen y wiced.

Swydd Efrog 115 am un ym mhelawd olaf ond un y diwrnod. Blaenoriaeth o 237.

Matthew Fisher, y noswyliwr, yw’r batiwr newydd.

17:53

Bean yw’r cyntaf i gyrraedd y garreg filltir, oddi ar 73 pelen gyda chwe phedwar, gyda Lyth yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar y belen ganlynol. Mae e wedi wynebu 68 pelen ac wedi taro wyth pedwar ac un chwech.

Swydd Efrog 108 heb golli wiced, ar y blaen o 230.

Pedair pelawd i ddod heno.

17:47

Mae agorwyr Swydd Efrog, Lyth a Bean, bellach wedi adeiladu partneriaeth o 100, a’r ddau ar drothwy eu hanner canred.

17:36

Dydy bowlwyr Morgannwg ddim wedi creu trafferth i fatwyr Swydd Efrog.

Lyth (37hfa) a Bean (44hfa) yn dal wrth y llain. 84 heb golli wiced, ac maen nhw ar y blaen o 206.

17:11

Mae’r agorwyr Lyth a Bean yn dal i edrych yn ddigon cyfforddus yn erbyn bowlwyr Morgannwg, ac mae Swydd Efrog bellach yn 61 heb golli wiced.

Mae’r ymwelwyr ar y blaen o 183 erbyn hyn.

16:37

Mae’r agorwyr Lyth a Bean wedi bwrw iddi ar unwaith, ac wedi cyrraedd 26 heb golli wiced ar ôl pedair pelawd yn erbyn bowlio James Harris a Timm van der Gugten.

Maen nhw wedi ymestyn mantais Swydd Efrog i 148.

16:12

WICED!

Morris allan heb sgorio, wedi’i fowlio gan Coad, sy’n gorffen â phedair wiced am 55 – union yr un ffigurau â Matthew Fisher.

Morgannwg 239 i gyd allan, ar ei hôl hi o 122.

Bydd gan Swydd Efrog 27 pelawd i’w hwynebu heno, gydag Adam Lyth a Finlay Bean yn agor y batio i’r ymwelwyr.

16:08

WICED!

James Harris allan, â’i goes o flaen y wiced am 40. Wiced i Coad, ei drydedd yn y batiad.

Morgannwg 239 am naw, ar ei hôl hi o 122.

Y batiwr olaf yw Ben Morris o’r Fenni, sy’n chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir yn y Bencampwriaeth.

15:38

TE, Diwrnod 2

Morgannwg 231 am wyth, ar ei hôl hi o 130.

15:27

Mae Gorvin a Harris bellach wedi adeiladu partneriaeth dros 50.

Morgannwg 223 am wyth, ar ei hôl hi o 138, ac yn brwydro’n galed i leihau’r diffyg sydd ganddyn nhw.