Morgannwg v Swydd Efrog (dydd Mawrth, Medi 17)

Hon yw gêm olaf ond un y sir yn y Bencampwriaeth

Sgorfwrdd

Swydd Efrog yw gwrthwynebwyr olaf ond un tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Mawrth, Medi 17).

Ar ôl colli o fewn tridiau yn erbyn Sussex yr wythnos ddiwethaf, mae’r sir Gymreig wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl, tra bod buddugoliaeth Swydd Efrog dros Swydd Gaerlŷr wedi’u gweld nhw’n codi i’r ail safle.

Dydy’r Saeson heb golli yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1987, pan gipiodd Rodney Ontong chwe wiced am 91, wrth i Forgannwg ennill o fatiad a 73 rhediad.

Dim ond dwy gêm arall mae’r sir Gymreig wedi’u hennill yn erbyn sir y Rhosyn Gwyn, ac roedd Ontong yn allweddol eto yn 1981 wrth gipio buddugoliaeth o ddeg wiced i’w dîm, ar ôl i John Hopkins daro 116, gydag Ezra Moseley hefyd yn cipio chwe wiced am 63.

Roedd Morgannwg yn fuddugol yn 1973 hefyd, gydag ugain wiced yn cwympo ar y diwrnod olaf i sicrhau buddugoliaeth o 65 rhediad.

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf – yn 2021 a 2023 – wedi gorffen yn gyfartal.

Y tymor diwethaf, tarodd Shan Mahmood 192 – ei ganred cyntaf i’r sir – cyn i Matthew Revis gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed i orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, gydag Eddie Byrom a Sam Northeast yn taro canred yr un i achub y Cymry.

Daeth y gêm yn 2021 ar drothwy Cyfres y Lludw, wrth i Joe Root (Swydd Efrog a Lloegr) herio Marnus Labuschagne (Morgannwg ac Awstralia), ac roedd y gêm honno’n fyw ar Sky Sports.

Tarodd Root 99 tra bod Labuschagne allan heb sgorio am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Mae Kiran Carlson wedi sgorio 881 o rediadau y tymor hwn yn y Bencampwriaeth, ac felly mae angen 119 yn rhagor arno fe i gyrraedd carreg filltir bwysig, tra bod angen 76 ar Sam Northeast i gyrraedd y garreg filltir honno hefyd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, B Kellaway, N Leonard, B Morris, A Tribe, J Harris, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Efrog: J Bairstow, F Bean, D Bess, B Coad, B Cliff, M Fisher, G Hill, A Lyth, W Luxton, D Moriarty, J Tattersall (capten), J Thompson, J Wharton

15:03

396 yw’r nod i Forgannwg, ac maen nhw eisoes wedi colli dwy wiced fawr – Sam Northeast a Colin Ingram. Dwy wiced i Ben Coad.

Roedd Swydd Efrog i gyd allan am 273, wrth iddyn nhw osod nod swmpus i’r sir Gymreig. Cipiodd James Harris bum wiced – gan gynnwys ei 600fed mewn gemau dosbarth cyntaf – wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl gwella o anaf.

Mae hi am fod yn anodd achub y gêm hon – y dacteg fwyaf tebygol yw ceisio batio gweddill yr ornest er mwyn sicrhau gêm gyfartal. Gyda dyrchafiad yn y fantol i’r ymwelwyr, byddan nhw’n awyddus i fowlio Morgannwg allan a’i hennill hi. 

13:17

Yn y cyfamser, mae Sussex wedi ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ôl curo Swydd Gaerloyw.

13:08

CINIO, Diwrnod 3

Swydd Efrog 224 am chwech, ar y blaen o 346 ac maen nhw’n prysur mynd â’r gêm tu hwnt i afael Morgannwg.

Finlay Bean 57.

Yn ystod y bore, mae James Harris wedi cipio’i 600fed wiced dosbarth cyntaf. 

11:36

Wrth gipio wiced Jonny Bairstow, gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced, mae James Harris wedi cyrraedd y garreg filltir o 600 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Swydd Efrog 157 am bump, ar y blaen o 279.

11:17

Y ddau Jonny sydd wrth y llain. Bairstow a Tattersall.

Swydd Efrog 152 am bedair, ar y blaen o 274 ac yn mynd â’r gêm ymhellach o afael Morgannwg.

11:05

Newyddion yn torri fod Gavin Hamilton, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, wedi’i benodi’n Rheolwr Criced Cyffredinol y sir, sy’n swydd newydd sy’n anelu at ddod â llwyddiant i sir y Rhosyn Gwyn.

Bydd yn dechrau yn ei swydd ar Dachwedd 1.

18:04

WICED!

James Harris wedi taro coes Adam Lyth (55) o flaen y wiced.

Swydd Efrog 115 am un ym mhelawd olaf ond un y diwrnod. Blaenoriaeth o 237.

Matthew Fisher, y noswyliwr, yw’r batiwr newydd.

17:53

Bean yw’r cyntaf i gyrraedd y garreg filltir, oddi ar 73 pelen gyda chwe phedwar, gyda Lyth yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar y belen ganlynol. Mae e wedi wynebu 68 pelen ac wedi taro wyth pedwar ac un chwech.

Swydd Efrog 108 heb golli wiced, ar y blaen o 230.

Pedair pelawd i ddod heno.

17:47

Mae agorwyr Swydd Efrog, Lyth a Bean, bellach wedi adeiladu partneriaeth o 100, a’r ddau ar drothwy eu hanner canred.

17:36

Dydy bowlwyr Morgannwg ddim wedi creu trafferth i fatwyr Swydd Efrog.

Lyth (37hfa) a Bean (44hfa) yn dal wrth y llain. 84 heb golli wiced, ac maen nhw ar y blaen o 206.