Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

21:15

Lloegr 114 am dair ar ôl deuddeg pelawd.

Mae angen 80 arall arnyn nhw oddi ar wyth pelawd, ac mae’r ergydion chwech yn dal i ddod gan y ddau fatiwr.

21:10

Mae Liam Livingstone wedi taro dwy ergyd debyg dros ei ysgwydd yn y belawd, y gynta’n mynd am bedwar ac yntau ar ei ben ôl, a’r llall wedi mynd i’r un cyfeiriad am chwech.

Mae pelen ola’r belawd wedi llorio’r batiwr.

Lloegr 105 am dair ar ôl 11 pelawd.

89 i ennill oddi ar naw pelawd – cael a chael ar hyn o bryd!

21:03

HANNER FFORDD DRWY’R BATIAD

Lloegr 90 am dair.

Roedd Awstralia’n 96 am ddwy ar yr un adeg.

Y cwestiwn mawr ar hyn o bryd yw a fydd Lloegr yn gallu cadw wicedi wrth gefn i gael mynd amdani tua diwedd y batiad.

Seibiant eto i’r chwaraewyr gael diod.

20:57

WICED!

Matt Short yw seithfed bowliwr Awstralia, ac mae e newydd gael gwared ar Salt am 39 (oddi ar 23 o belenni).

Daliad i Abbott, a Lloegr yn 79 am dair ar ôl 8.2 pelawd wrth i Jacob Bethell ddod i’r llain. Mae Lloegr mewn rhywfaint o drafferth fan hyn, dwi’n meddwl… Mae ganddyn nhw anfantais hefyd wrth fatio o dan y llifoleuadau.

20:55

Pelawd dda i Zampa ac Awstralia. Dim ond pedwar rhediad oddi arni.

Lloegr 78 am ddwy. Mae gan Loegr ddigon o wicedi a phelawdau’n weddill, felly does dim angen rhuthro eto.

20:52

74 am ddwy yw sgôr Lloegr ar ôl saith pelawd.

Mae Awstralia wedi troi at y troellwr coes Adam Zampa i fowlio’r wythfed. Mae angen wicedi cyflym arnyn nhw i atal y llif, gyda Lloegr yn edrych yn ddigon cyfforddus ar hyn o bryd.

20:46

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

Pelawd dda i Loegr, a’r sgôr yn weddol gyfartal ar hyn o bryd.

65 am ddwy. 

67 am un oedd sgôr Awstralia ar yr un adeg.

20:42

Mae Liam Livingstone wedi ymuno yn hwyl y clatsio yn y pumed pelawd, gydag ergyd chwech ar ochr y goes tua’r gornel bellaf – “cow corner”, ys dywed y Sais.

Ar ôl pum pelawd, Lloegr 48 am ddwy.

20:33

WICED!

Llwyddiant i Abbott gyda’i drydedd pelen wrth fowlio Cox. Dangosodd y bowliwr gyda’i belen flaenorol pa mor gyflym mae’n bowlio.

Lloegr 34 am ddwy. Liam Livingstone yw’r batiwr newydd.

20:31

WICED!

Ergyd fawr gan Will Jacks at Fraser-McGurk oddi ar fowlio Sean Abbott.

Lloegr 34 am un, wrth i Jordan Cox ddod i’r llain i ymuno â’r capten Salt.