Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.
Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.
Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.
Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.
Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.
Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.
Capteniaid eraill o Gymru
Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.
Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.
Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.
Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.
Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.
Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.