Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

20:20

Pelawd dynn gan Hardie i ddechrau’r batiad.

Un rhediad oddi arni.

Y troellwr llaw chwith Cooper Connolly sy’n agor y bowlio o gyfeiriad Heol y Gadeirlan.

20:15

Phil Salt a Will Jacks sy’n agor y batio i Loegr.

Aaron Hardie sy’n bowlio o gyfeiriad afon Taf.

Dyma ni – 194 yw’r nod i Loegr…

20:00

DIWEDD Y BATIAD

Pelawd fawr i Awstralia, sy’n gorffen ar 193 am chwech.

Dyma’r belawd olaf: 4-4-6-llydan-2-llydan-1-1

194 fydd y nod i Loegr felly – tipyn mwy nag y dylen nhw fod yn ei gwrso ar ôl perfformiad da nifer o’r bowlwyr.

19:55

Diwedd y belawd olaf ond un. 

Awstralia 173 am chwech.

Sam Curran sy’n bowlio’r belawd olaf.

19:49

Ar ôl 18 pelawd, Awstralia 161 am chwech. Maen nhw’n brin o rediadau ar hyn o bryd…

Ac mae Green wedi cael ei ollwng ar ymyl y cylch ar ochr y goes. Aeth y bêl i mewn ac allan o’r dwylo, ond byddai wedi bod yn chwip o ddaliad, chwarae teg!

Mae’r belen ganlynol wedi mynd am chwech, a chefnogwr yn y dorf wedi dangos ei ddoniau wrth ddal y bêl!

19:46

WICED!

Inglis wedi’i ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Carse oddi ar fowlio Sam Curran am 42. 

Awstralia 157 am chwech ar ôl 17.1 pelawd.

Ar ôl bod ar y droed flaen gyhyd, byddan nhw nawr yn ceisio llygadu sgôr cystadleuol. Mae’r rhod wedi troi!

Mae tynged Awstralia yn nwylo Cameron Green ac Aaron Hardie bellach.

19:42

WICED!

Roedd Brydon Carse yn teimlo bod y batiwr wedi’i tharo hi ar ei ffordd i’r wicedwr…

Cymerodd hi oes i’r dyfarnwr godi’i fys!

Mae technoleg ‘Snickometer’ wedi dangos cyffyrddiad bach iawn, ac mae’r batiwr David allan. 

19:38

Awstralia 148 am bedair ar ôl 16 pelawd.

Pe bai modd iddyn nhw adeiladu un bartneriaeth fach olaf, gallen nhw gael sgôr eithaf mawr o hyd, ond rhaid canmol bowlwyr Lloegr hefyd am ddal ati.

Yn nwylo Josh Inglis mae eu gobeithion erbyn hyn, a gall Tim David fod yn ddigon peryglus hefyd.

19:33

WICED!

Ail wiced i Livingstone, ac ail ddaliad i Overton. Ergyd fawr gan Stoinis i lawr corn gwddf y maeswr.

Awstralia 131 am bedair ar ôl 14.3 pelawd wrth i Tim David ddod i’r llain.

19:32

Awstralia 126 am dair ar ôl 14 pelawd, ac mae rhywun yn dechrau synhwyro bod Lloegr yn dawel fach yn dod yn ôl i mewn i’r gêm hon. Mae gan Awstralia gyfnod o ailadeiladu o’u blaenau gyda dau fatiwr cymharol newydd wrth y llain.