Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

18:44

Awstralia yn dal i hedfan yn y cyfnod clatsio – 37 heb golli wiced ar ôl tair pelawd, a’r bowlwyr yn cael eu cosbi ar hyn o bryd. 

18:39

Pelawd ychydig yn well. 

Awstralia’n 25 heb golli wiced ar ôl dwy belawd. Short 14hfa, Head 11hfa.

18:31

Matthew Short a Travis Head yw batwyr agoriadol Awstralia, a Reece Topley sy’n bowlio’r belawd gyntaf o gyfeiriad Heol y Gadeirlan.

Mae ail belen yr ornest wedi cael ei tharo allan o’r stadiwm i gyfeiriad yr afon gan Short. Tipyn o ddechreuad gan Awstralia. Y drydedd wedi mynd yn syth drwy ddwylo Will Jacks ar ymyl y cylch yn y gyli, a’r bedwaredd i’r ffin am bedwar!

Awstralia 15 heb golli wiced ar ddiwedd y belawd gyntaf.

Yr ail belawd i ddod o gyfeiriad afon Taf gan Saqib Mahmood.

18:23

Dilynwch y sgorfwrdd i gael y manylion diweddaraf.

18:17

Gyda llaw, mae yna gysylltiad Cymreig ymhlith y dyfarnwyr hefyd. Un o’r ddau yn y canol heno yw Alex Wharf, cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg. Y dyfarnwr arall ar y cae yw Mike Burns, a Russell Warren yw’r trydydd dyfarnwr.

18:08

Tîm Lloegr

  • Phil Salt (capten)
  • Will Jacks
  • Jordan Cox
  • Liam Livingstone
  • Jacob Bethell
  • Sam Curran
  • Jamie Overton
  • Brydon Carse
  • Adil Rashid
  • Saqib Mahmood
  • Reece Topley

Tîm Awstralia

  • Matt Short
  • Travis Head (capten)
  • Jake Fraser-McGurk
  • Josh Inglis
  • Marcus Stoinis
  • Tim David
  • Cameron Green
  • Aaron Hardie
  • Sean Abbott
  • Cooper Connolly
  • Adam Zampa

18:06

Lloegr sydd wedi galw’n gywir. Awstralia fydd yn batio. Newyddion y timau i ddilyn.

16:08

Hon heno yw’r ail gêm yn y gyfres ugain pelawd, gydag Awstralia ar y blaen o 1-0 yn dilyn eu buddugoliaeth o 28 rhediad yn Southampton.

16:05

Yn gynharach yng Ngerddi Sophia, fe fu gêm griced anabledd rhwng timau’r Pirates a’r Tridents.

Enillodd y Pirates (143 am chwech) o 32 rhediad, gyda’r Tridents yn sgorio 111 am naw.

16:04

Carfan Lloegr: Phil Salt (capten), Jofra Archer, Jacob Bethell, Brydon Carse, Jordan Cox, Sam Curran, Josh Hull, Will Jacks, Liam Livingstone, Saqib Mahmood, Dan Mousley, Jamie Overton, Adil Rashid, Reece Topley, John Turner

Carfan Awstralia: Mitchell Marsh (capten), Sean Abbott, Xavier Bartlett, Cooper Connolly, Tim David, Jake Fraser-McGurk, Cameron Green, Aaron Hardie, Josh Hazlewood, Travis Head, Josh Inglis, Matt Short, Marcus Stoinis, Adam Zampa