Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

19:08

WICED!

Ar ôl taro ergyd fawr am chwech, mae Short wedi cael ei fowlio gan Rashid am 28 ar ôl wynebu ugain pelen.

Awstralia 87 am ddwy ar ôl 8.5 pelawd, wrth i Josh Inglis gamu i’r llain.

19:05

Awstralia 77 am un ar ôl wyth pelawd.

Carse fowliodd yr wythfed pelawd, ac roedd hi dipyn gwell na’i belawd gyntaf. Mae llacio’r cyfyngiadau maesu a’r wiced yn sicr wedi cael effaith ar Awstralia, ond dw i’n dal i ddisgwyl sgôr swmpus.

19:01

Tri rhediad yn unig oddi ar belawd Adil Rashid.

Awstralia 70 am un ar ôl saith pelawd, ac mae’r gyfradd yn dechrau cwympo ryw fymryn bach.

18:58

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

14 rhediad ddaeth oddi ar belawd Curran, ac mae Awstralia’n 67 am un ar ôl chwe phelawd.

Dyma lacio’r rheolau maesu, wrth i’r troellwr coes Adil Rashid fowlio’i belawd gyntaf. Tybed ai cylchdroi dipyn fydd y dacteg er mwyn ceisio atal llif y rhediadau…?

18:55

Un rhediad yn unig ildiodd Carse, ac mae newid arall o ben afon Taf, gyda Sam Curran yn bowlio pelawd ola’r cyfnod clatsio.

18:50

WICED!

Ar y gair! Wiced i Brydon Carse, wrth i Head (31) ergydio’n sgwâr at Adil Rashid ar yr ochr agored.

Roedd angen ateb o rywle ar Loegr, a daeth yr ateb hwnnw wrth newid y bowliwr o ben Heol y Gadeirlan. Dyna’r dyn peryglus allan, a Jake Fraser-McGurk sy’n dod i’r llain yn ei le.

Awstralia 52 am un ar ôl 4.2 pelawd.

18:49

Dim ond pedair pelawd gymerodd hi i Awstralia gyrraedd eu hanner cant.

Maen nhw’n 51 heb golli wiced, gyda Head yn arwain y ffordd ar 31. Short 19.

Gawn ni weld sut fydd llacio’r rheolau maesu ymhen dwy belawd yn gwella’r sefyllfa i Loegr, ond maen nhw’n sicr o dan bwysau ar hyn o bryd.

18:44

Awstralia yn dal i hedfan yn y cyfnod clatsio – 37 heb golli wiced ar ôl tair pelawd, a’r bowlwyr yn cael eu cosbi ar hyn o bryd. 

18:39

Pelawd ychydig yn well. 

Awstralia’n 25 heb golli wiced ar ôl dwy belawd. Short 14hfa, Head 11hfa.

18:31

Matthew Short a Travis Head yw batwyr agoriadol Awstralia, a Reece Topley sy’n bowlio’r belawd gyntaf o gyfeiriad Heol y Gadeirlan.

Mae ail belen yr ornest wedi cael ei tharo allan o’r stadiwm i gyfeiriad yr afon gan Short. Tipyn o ddechreuad gan Awstralia. Y drydedd wedi mynd yn syth drwy ddwylo Will Jacks ar ymyl y cylch yn y gyli, a’r bedwaredd i’r ffin am bedwar!

Awstralia 15 heb golli wiced ar ddiwedd y belawd gyntaf.

Yr ail belawd i ddod o gyfeiriad afon Taf gan Saqib Mahmood.