Lloegr v Awstralia: Cricedwr yn torri tir newydd wrth arwain Lloegr (i fuddugoliaeth) yng Nghymru

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru cyn Phil Salt heno (nos Wener, Medi 13)

Phil SaltNick Potts / PA

Phil Salt

Sgorfwrdd

Mae’r cricedwr Phil Salt wedi torri tir newydd heno wrth arwain tîm Lloegr yn erbyn Awstralia mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd.

Does yna’r un cricedwr arall sy’n enedigol o Gymru wedi arwain Lloegr ar gae criced yng Nghymru.

Ond dyna ddyletswydd Salt heno ar gae Gerddi Sophia yn absenoldeb y capten parhaol Jos Buttler, sydd allan ag anaf.

Cafodd Salt ei eni ym Modelwyddan a’i fagu yn Llanelwy, ac fe gynrychiolodd e dîm dan 11 Gogledd-ddwyrain Cymru yn blentyn.

Aeth i’r ysgol yng Nghaer cyn i’w deulu fudo i India’r Gorllewin, lle bu Salt yn cyd-chwarae ag un arall o chwaraewyr Lloegr, y bowliwr cyflym Jofra Archer.

Dychwelodd Salt i wledydd Prydain yn bymtheg oed, a chafodd ei addysg yn Surrey cyn ennill ei le yn Academi Clwb Criced Sussex.

Capteniaid eraill o Gymru

Tra bod dau Gymro arall, Cyril Walters a Tony Lewis, wedi bod yn gapteniaid ar Loegr, doedden nhw erioed wedi arwain y tîm yng Nghymru.

Enillodd Cyril Walters, gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd cyn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg ac wedyn Swydd Gaerwrangon, unarddeg o gapiau rhyngwladol rhwng 1933 a 1934.

Cafodd ei benodi’n gapten dros dro ar Loegr yn 1934, a hynny ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn Trent Bridge, Nottingham ar ôl i Bob Wyatt dorri ei fys bawd.

Cafodd Tony Lewis yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd hefyd, cyn mynd yn ei flaen i arwain Lloegr ar daith i India, Pacistan a Sri Lanca yn 1972-73, ar ôl i Ray Illingworth benderfynu peidio teithio.

Lewis oedd capten Morgannwg pan enillon nhw Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac fe chwaraeodd e dros Loegr naw o weithiau cyn ymddeol yn 1974.

Ar y daith, enillodd Lloegr y prawf cyntaf yn Delhi o dan ei gapteniaeth ac fe sgoriodd e 125 yn y pedwerydd prawf yn Kanpur.

19:32

Awstralia 126 am dair ar ôl 14 pelawd, ac mae rhywun yn dechrau synhwyro bod Lloegr yn dawel fach yn dod yn ôl i mewn i’r gêm hon. Mae gan Awstralia gyfnod o ailadeiladu o’u blaenau gyda dau fatiwr cymharol newydd wrth y llain.

19:25

WICED!

Hanner canred i Fraser-McGurk oddi ar 29 pelen, ond mae e wedi’i ddal ar y ffin wrth yrru’n syth at Jamie Overton oddi ar fowlio Livingstone.

Marcus Stoinis yw’r batiwr newydd i Awstralia, sy’n 119 am dair ar ôl 12.4 pelawd ac mewn sefyllfa gref o hyd.

19:22

Chwe phelen drud arall, wrth i Awstralia gyrraedd 117 am ddwy ar ôl deuddeg pelawd.

19:20

103 am ddwy oedd sgôr Awstralia ar ôl 11 pelawd, ond mae pelen gyntaf Reece Topley yn y deuddegfed wedi mynd am chwech er gwaethaf ymdrechion acrobataidd Jacob Bethell ar y ffin i’w dal hi.

19:15

Newid arall o safbwynt y bowlwyr, wrth i Liam Livingstone baratoi i fowlio’i belawd gyntaf o gyfeiriad Heol y Gadeirlan. Mae’r dacteg o gylchdroi yn talu ar ei ganfed ar hyn o bryd i Loegr.

19:14

HANNER FFORDD

Awstralia 96 am ddwy wrth i’r chwaraewyr gael seibiant i gael diod.

Bydd Awstralia’n hapus iawn gyda hanner cynta’r batiad, a Lloegr yn teimlo ychydig o ryddhad o fod wedi cipio wicedi’r agorwyr. Cael Jake Fraser-McGurk allan cyn iddo yntau achosi difrod yw’r her nesaf.

19:08

WICED!

Ar ôl taro ergyd fawr am chwech, mae Short wedi cael ei fowlio gan Rashid am 28 ar ôl wynebu ugain pelen.

Awstralia 87 am ddwy ar ôl 8.5 pelawd, wrth i Josh Inglis gamu i’r llain.

19:05

Awstralia 77 am un ar ôl wyth pelawd.

Carse fowliodd yr wythfed pelawd, ac roedd hi dipyn gwell na’i belawd gyntaf. Mae llacio’r cyfyngiadau maesu a’r wiced yn sicr wedi cael effaith ar Awstralia, ond dw i’n dal i ddisgwyl sgôr swmpus.

19:01

Tri rhediad yn unig oddi ar belawd Adil Rashid.

Awstralia 70 am un ar ôl saith pelawd, ac mae’r gyfradd yn dechrau cwympo ryw fymryn bach.

18:58

DIWEDD Y CYFNOD CLATSIO

14 rhediad ddaeth oddi ar belawd Curran, ac mae Awstralia’n 67 am un ar ôl chwe phelawd.

Dyma lacio’r rheolau maesu, wrth i’r troellwr coes Adil Rashid fowlio’i belawd gyntaf. Tybed ai cylchdroi dipyn fydd y dacteg er mwyn ceisio atal llif y rhediadau…?