Morgannwg v Swydd Gaerlŷr: Gêm gyfartal

Mae’r tywydd wedi dirwyn gobeithion Morgannwg i ben

Sgorfwrdd

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr â Gerddi Sophia i herio Morgannwg yn y gêm ddiweddaraf yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Iau, Awst 29).

Daw’r ornest ychydig dros bythefnos ers i’r ddwy sir herio’i gilydd yng Nghwpan Undydd Metro Bank, wrth i Forgannwg gyrraedd y rownd derfynol, lle byddan nhw’n wynebu Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham ar Fedi 22.

Mae gan y sir Gymreig lygedyn o obaith o ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, ond mae’r gobeithion hynny’n prysur bylu erbyn hyn.

Maen nhw’n chweched yn y tabl, tra bo’r gwrthwynebwyr yn bedwerydd gyda phedair gêm yn weddill.

Daeth y gêm rhwng y ddwy sir yn Grace Road i ben yn gyfartal yn gynharach y tymor hwn, wrth i Scott Currie gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’r Saeson, tra bod Peter Handscomb wedi taro 103 a Lewis Hill 92.

Positifrwydd

Er gwaetha’r golled yn Derby, mae Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, wedi canmol positifrwydd ei garfan.

“Fel hyfforddwyr, mae derbyn y golled a’r ymateb i’r golled yn Derby wedi creu argraff arnon ni,” meddai.

“Does dim modd gweld bai yn eu hagwedd at eu gwaith, ac yn bwysicaf oll yr agwedd bositif ynghylch dod o hyd i atebion, ac mae defnyddio ein sgiliau’n well mewn sefyllfaoedd wedi bod yn wych.

“Mae diwylliant positif, cryf yn y garfan, sy’n cael ei arwain gan y capteniaid a’r chwaraewyr mwyaf profiadol, sy’n mynd â’r tîm hwn i gyfeiriad positif er mwyn gwella’n barhaus.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw gwelliant yn rhywbeth llinellol, a dydyn ni’n sicr ddim yn ofni colli wrth i ni ymdrechu i roi ein hunain mewn sefyllfaoedd i ennill yn amlach yn y fformat yma.”

Y timau

Cafodd y chwaraewr amryddawn ifanc Ben Kellaway ei anafu yn Derby, a does neb wedi dod i mewn i’r garfan yn ei le.

Mae’r chwaraewr amryddawn Zain ul Hassan yn parhau i chwarae i’r ail dîm wrth wella o anaf i linyn y gâr, ac mae’r bowliwr cyflym James Harris a’r wicedwr Alex Horton ar y cyrion o hyd hefyd.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar na fydd y batiwr Eddie Byrom yn chwarae am weddill y tymor oherwydd anaf.

Daw Chris Wright i mewn i garfan y Saeson am y tro cyntaf eleni, a hynny ar ôl i’r bowliwr cyflym 39 oed wella o anaf i’w goes.

Hefyd wedi’i gynnwys mae Alex Green, sy’n 17 oed, ynghyd â Sam Wood.

Mae Josh Hull yng ngharfan Lloegr, tra bod Ben Green wedi dychwelyd i Wlad yr Haf am gyfnod byr.

Does dim lle i’r Cymro Roman Walker yn y garfan, ac mae Ben Mike, Matt Salisbury a Scott Currie wedi’u hanafu.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, N Leonard, B Root, F Sheat, A Tribe, T van der Gugten, W Smale

Carfan Swydd Gaerlŷr: R Ahmed, S Budinger, A Green, P Handscomb, I Holland, L Hill (capten), L Kimber, R Patel, A Rahane, T Scriven, L Trevaskis, C Wright, S Wood

11:23

Hanner canred i Ajinkya Rahane.

Swydd Gaerlŷr 155 am dair, ar ei hôl hi o 144.

17:46

DIWEDD, Diwrnod 3

GOLAU GWAEL – ETO!

Swydd Gaerlŷr 144 am dair, ar ei hôl hi o 155.

17:35

Newyddion da!

Bydd y gêm yn ailddechrau unrhyw funud – ond dyw’r golau heb newid ryw lawer…!

22.5 pelawd i ddod heno.

17:10

GOLAU GWAEL!

Swydd Gaerlŷr 142 am dair, ar ei hôl hi o 157.

16:29

Mae’r chwaraewyr wedi dychwelyd i’r cae. Dim pelawdau wedi’u colli.

34 pelawd yn weddill heno.

16:00

GLAW!

Te cynnar.

Swydd Gaerlŷr 111 am dair, ar ei hôl hi o 188.

15:55

Swydd Gaerlŷr 109 am dair.

Dau ddaliad wedi’u gollwng gan Mason Crane oddi ar ei fowlio’i hun fyddai wedi cael gwared ar Ajinkya Rahane.

15:20

WICED!

Ian Holland wedi’i ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 27.

Swydd Gaerlŷr 74 am dair, ar ei hôl hi o 225. 

14:35

WICED!

Lewis Hill wedi’i fowlio gan Ned Leonard.

Swydd Gaerlŷr 37 am ddwy, ar ei hôl hi o 262.

14:28

WICED!

Rishi Patel â’i goes o flaen y wiced am 23. Wiced i Dan Douthwaite.

Swydd Gaerlŷr 34 am un, ar ei hôl hi o 265.