Morgannwg v Swydd Gaerlŷr: Gêm gyfartal

Mae’r tywydd wedi dirwyn gobeithion Morgannwg i ben

Sgorfwrdd

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr â Gerddi Sophia i herio Morgannwg yn y gêm ddiweddaraf yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Iau, Awst 29).

Daw’r ornest ychydig dros bythefnos ers i’r ddwy sir herio’i gilydd yng Nghwpan Undydd Metro Bank, wrth i Forgannwg gyrraedd y rownd derfynol, lle byddan nhw’n wynebu Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham ar Fedi 22.

Mae gan y sir Gymreig lygedyn o obaith o ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, ond mae’r gobeithion hynny’n prysur bylu erbyn hyn.

Maen nhw’n chweched yn y tabl, tra bo’r gwrthwynebwyr yn bedwerydd gyda phedair gêm yn weddill.

Daeth y gêm rhwng y ddwy sir yn Grace Road i ben yn gyfartal yn gynharach y tymor hwn, wrth i Scott Currie gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’r Saeson, tra bod Peter Handscomb wedi taro 103 a Lewis Hill 92.

Positifrwydd

Er gwaetha’r golled yn Derby, mae Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, wedi canmol positifrwydd ei garfan.

“Fel hyfforddwyr, mae derbyn y golled a’r ymateb i’r golled yn Derby wedi creu argraff arnon ni,” meddai.

“Does dim modd gweld bai yn eu hagwedd at eu gwaith, ac yn bwysicaf oll yr agwedd bositif ynghylch dod o hyd i atebion, ac mae defnyddio ein sgiliau’n well mewn sefyllfaoedd wedi bod yn wych.

“Mae diwylliant positif, cryf yn y garfan, sy’n cael ei arwain gan y capteniaid a’r chwaraewyr mwyaf profiadol, sy’n mynd â’r tîm hwn i gyfeiriad positif er mwyn gwella’n barhaus.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw gwelliant yn rhywbeth llinellol, a dydyn ni’n sicr ddim yn ofni colli wrth i ni ymdrechu i roi ein hunain mewn sefyllfaoedd i ennill yn amlach yn y fformat yma.”

Y timau

Cafodd y chwaraewr amryddawn ifanc Ben Kellaway ei anafu yn Derby, a does neb wedi dod i mewn i’r garfan yn ei le.

Mae’r chwaraewr amryddawn Zain ul Hassan yn parhau i chwarae i’r ail dîm wrth wella o anaf i linyn y gâr, ac mae’r bowliwr cyflym James Harris a’r wicedwr Alex Horton ar y cyrion o hyd hefyd.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar na fydd y batiwr Eddie Byrom yn chwarae am weddill y tymor oherwydd anaf.

Daw Chris Wright i mewn i garfan y Saeson am y tro cyntaf eleni, a hynny ar ôl i’r bowliwr cyflym 39 oed wella o anaf i’w goes.

Hefyd wedi’i gynnwys mae Alex Green, sy’n 17 oed, ynghyd â Sam Wood.

Mae Josh Hull yng ngharfan Lloegr, tra bod Ben Green wedi dychwelyd i Wlad yr Haf am gyfnod byr.

Does dim lle i’r Cymro Roman Walker yn y garfan, ac mae Ben Mike, Matt Salisbury a Scott Currie wedi’u hanafu.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, N Leonard, B Root, F Sheat, A Tribe, T van der Gugten, W Smale

Carfan Swydd Gaerlŷr: R Ahmed, S Budinger, A Green, P Handscomb, I Holland, L Hill (capten), L Kimber, R Patel, A Rahane, T Scriven, L Trevaskis, C Wright, S Wood

12:12

WICED!

Digwyddiad anffodus.

Colin Ingram wedi taro’r bêl yn ôl at y bowliwr Rehan Ahmed, y bêl wedi bwrw ei law ac wedi taro’r wiced gyda Mason Crane allan o’r cris batio. 

Crane wedi’i redeg allan, felly, am 49.

Morgannwg 502 am wyth, ar y blaen o 251.

11:58

Wrth i awr gynta’r trydydd diwrnod dynnu tua’i therfyn, mae Colin Ingram yn closio at 250. Criw dethol iawn o chwaraewyr Morgannwg sydd wedi cyrraedd y garreg filltir honno – Steve James, Dick Duckfield, Dai Davies, Mike Powell, Steve James, Sam Northeast a David Lloyd.

Morgannwg 486 am saith, ar y blaen o 235.

19:28

Colin Ingram:

“Wnes i wir fwynhau.

“Mae nifer o bethau wedi digwydd am y tro cyntaf i fi’r tymor hwn.

“Dw i’n trio cadw pethau’n syml a gweithio mewn partneriaethau a gwthio’r gêm yn ei blaen.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod cael blaenoriaeth mewn gemau ers sbel.

“Roedd yn berfformiad bowlio gwych ddoe, ac roedd angen i ni fwrw ati heddiw a gwthio’n hunain yn ein blaenau.

“Dw i’n falch iawn o’r partneriaethau gyda phawb arall heddiw.

“Dw i’n teimlo ton o emosiynau, ond dw i mor hapus bod y tîm ar y blaen.”

18:33

DIWEDD, Diwrnod 2

Morgannwg 431 am saith, ar y blaen o 180.

Colin Ingram 206 heb fod allan.

18:24

Canred dwbwl i Colin Ingram am y tro cyntaf yn ei yrfa.

200 heb fod allan oddi ar 312 o belenni – 23 pedwar ac un chwech.

Morgannwg 418 am saith, ar y blaen o 167.

18:02

Mae Colin Ingram, wrth gyrraedd 185 heb fod allan, wedi cyrraedd 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn. Dyma’r tro cyntaf erioed iddo fe gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf mewn tymor i’r sir.

Mae Ingram hefyd wedi torri’r record am y nifer lleiaf o fatiadau i gyrraedd y nod – dau yn llai na 15 batiad Majid Khan yn 1972.

A fe hefyd yw’r chwaraewr cyntaf yn y Bencampwriaeth – dros y ddwy adran – i gyrraedd 1,000 o rediadau eleni.

Wrth gyrraedd 191, mae e hefyd wedi curo’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed (190).

15:55

TE, Diwrnod 2

Morgannwg 318 am bump (Ingram 158 heb fod allan).

Ar y blaen o 67.

15:23

150 i Colin Ingram oddi ar 234 o belenni, ac mae e wedi taro ugain pedwar ac un chwech.

Morgannwg 301 am bedair, ar y blaen o 50.

12:56

CINIO, Diwrnod 2

Kiran Carlson allan am 85 ar drothwy amser cinio, wedi’i stympio gan Peter Handscomb oddi ar fowlio Rehan Ahmed.

Morgannwg 201 am dair, ar ei hôl hi o 50 rhediad.

Y bartneriaeth o 174 rhwng Carlson ac Ingram (105 heb fod allan) wedi dod i ben.

12:42

Canred i Colin Ingram oddi ar 150 o belenni, gyda 15 pedwar ac un chwech. Morgannwg 195 am ddwy, ar ei hôl hi o 56 rhediad.