Morgannwg v Swydd Gaerlŷr: Gêm gyfartal

Mae’r tywydd wedi dirwyn gobeithion Morgannwg i ben

Sgorfwrdd

Swydd Gaerlŷr yw’r ymwelwyr â Gerddi Sophia i herio Morgannwg yn y gêm ddiweddaraf yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Iau, Awst 29).

Daw’r ornest ychydig dros bythefnos ers i’r ddwy sir herio’i gilydd yng Nghwpan Undydd Metro Bank, wrth i Forgannwg gyrraedd y rownd derfynol, lle byddan nhw’n wynebu Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham ar Fedi 22.

Mae gan y sir Gymreig lygedyn o obaith o ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth, ond mae’r gobeithion hynny’n prysur bylu erbyn hyn.

Maen nhw’n chweched yn y tabl, tra bo’r gwrthwynebwyr yn bedwerydd gyda phedair gêm yn weddill.

Daeth y gêm rhwng y ddwy sir yn Grace Road i ben yn gyfartal yn gynharach y tymor hwn, wrth i Scott Currie gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf i’r Saeson, tra bod Peter Handscomb wedi taro 103 a Lewis Hill 92.

Positifrwydd

Er gwaetha’r golled yn Derby, mae Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg, wedi canmol positifrwydd ei garfan.

“Fel hyfforddwyr, mae derbyn y golled a’r ymateb i’r golled yn Derby wedi creu argraff arnon ni,” meddai.

“Does dim modd gweld bai yn eu hagwedd at eu gwaith, ac yn bwysicaf oll yr agwedd bositif ynghylch dod o hyd i atebion, ac mae defnyddio ein sgiliau’n well mewn sefyllfaoedd wedi bod yn wych.

“Mae diwylliant positif, cryf yn y garfan, sy’n cael ei arwain gan y capteniaid a’r chwaraewyr mwyaf profiadol, sy’n mynd â’r tîm hwn i gyfeiriad positif er mwyn gwella’n barhaus.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw gwelliant yn rhywbeth llinellol, a dydyn ni’n sicr ddim yn ofni colli wrth i ni ymdrechu i roi ein hunain mewn sefyllfaoedd i ennill yn amlach yn y fformat yma.”

Y timau

Cafodd y chwaraewr amryddawn ifanc Ben Kellaway ei anafu yn Derby, a does neb wedi dod i mewn i’r garfan yn ei le.

Mae’r chwaraewr amryddawn Zain ul Hassan yn parhau i chwarae i’r ail dîm wrth wella o anaf i linyn y gâr, ac mae’r bowliwr cyflym James Harris a’r wicedwr Alex Horton ar y cyrion o hyd hefyd.

Daeth cadarnhad yn ddiweddar na fydd y batiwr Eddie Byrom yn chwarae am weddill y tymor oherwydd anaf.

Daw Chris Wright i mewn i garfan y Saeson am y tro cyntaf eleni, a hynny ar ôl i’r bowliwr cyflym 39 oed wella o anaf i’w goes.

Hefyd wedi’i gynnwys mae Alex Green, sy’n 17 oed, ynghyd â Sam Wood.

Mae Josh Hull yng ngharfan Lloegr, tra bod Ben Green wedi dychwelyd i Wlad yr Haf am gyfnod byr.

Does dim lle i’r Cymro Roman Walker yn y garfan, ac mae Ben Mike, Matt Salisbury a Scott Currie wedi’u hanafu.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, C Ingram, N Leonard, B Root, F Sheat, A Tribe, T van der Gugten, W Smale

Carfan Swydd Gaerlŷr: R Ahmed, S Budinger, A Green, P Handscomb, I Holland, L Hill (capten), L Kimber, R Patel, A Rahane, T Scriven, L Trevaskis, C Wright, S Wood

16:35

GLAW!

Ai dyna ddiwedd yr ornest, tybed?

Mae’r glaw yn cwympo yng Nghaerdydd wrth i’r diwrnod olaf dynnu tua’i derfyn.

Swydd Gaerlŷr 369 am chwech, ar y blaen o 70.

Peter Handscomb 139 heb fod allan.

16:26

Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae hi’n edrych yn fwyfwy tebygol mai gêm gyfartal fydd hi.

Peter Handscomb heb fod allan ar 139, a’i dîm yn 365 am chwech, ar y blaen o 66.

Er gwaetha’u hymdrechion, dydy bowlwyr Morgannwg ddim wedi cael unrhyw lwc wrth geisio wiced allweddol Handscomb. Gallwn ni ddisgwyl i’r chwarae ddod i ben o fewn yr awr nesa’ ’ma.

15:42

TE

Swydd Gaerlŷr 344 am chwech, ar y blaen o 45.

Handscomb 126 heb fod allan.

Un sesiwn i ddod, ac mae angen wicedi cyflym ar Forgannwg er mwyn cael ceisio cwrso nod.

15:29

Mae Morgannwg yn dal i aros am wiced fawr Peter Handscomb. Mae e’n dal wrth y llain, heb fod allan ar 123.

Kiran Carlson a Mason Crane, y ddau droellwr, sy’n bowlio ar hyn o bryd.

Swydd Gaerlŷr 340 am chwech, ar y blaen o 41.

14:49

WICED!

Does dim amheuaeth y tro yma – awr a hanner wedi’r daliad dadleuol.

Louis Kimber wedi gyrru at Kiran Carlson ar yr ochr agored oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 26.

Swydd Gaerlŷr 312 am chwech, ar y blaen o 13 rhediad.

Handscomb 109 heb fod allan.

14:36

Wrth gyrraedd 300 am bump, mae’r Saeson bellach ar y blaen ac felly bydd rhaid i Forgannwg fatio eto.

14:13

Canred i Peter Handscomb oddi ar 172 o belenni, gyda 14 pedwar. Mae angen i Forgannwg gipio wiced y batiwr o Awstralia cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

14:11

Morgannwg yn hyderus eu bod nhw wedi cipio wiced Louis Kimber, ond hwnnw’n sefyll yn stond i aros i’r dyfarnwyr benderfynu a oedd y wicedwr Cooke wedi’i dal hi’n lân. “Na” meddai’r dyfarnwyr. Dim wiced i Timm van der Gugten.

Swydd Gaerlŷr 290 am bump.

13:43

WICED!

Oddi ar ail belen y prynhawn, mae Rehan Ahmed wedi’i ddal gan Mason Crane yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Kiran Carlson am bedwar.

Swydd Gaerlŷr 271 am bump.

13:00

CINIO

Swydd Gaerlŷr 271 am bedair, ar ei hôl hi o 28. 

Handscomb 94 heb fod allan.