Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

18:38

Gwlad yr Haf fydd eu gwrthwynebwyr, ar ôl iddyn nhw guro Swydd Gaerlŷr o 23 rhediad.

18:17

BUDDUGOLIAETH I FORGANNWG!

Booth d Douthwaite b Gorvin 35.

Swydd Warwick 208 i gyd allan.

Morgannwg yn fuddugol o 39 rhediad, ac maen nhw ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22!

18:16

Swydd Warwick 208 am naw.

40 i ennill oddi ar bedair pelawd.

18:12

59 sydd ei angen ar yr ymwelwyr i ennill oddi ar bum pelawd.

Swydd Warwick 189 am naw ar ôl 45 pelawd.

18:08

WICED!

Rae d Northeast b Kellaway 8

Cafodd y bêl ei thynnu’n sgwâr ar ochr y goes at y maeswr.

Un wiced sydd ei hangen ar Forgannwg i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol yn Trent Bridge.

Olly Hannon-Dalby yw’r batiwr olaf.

Swydd Warwick 180 am naw oddi ar 44 pelawd.

68 arall i ennill.

17:58

WICED!

Lintott d McIlroy b Kellaway 26

Sgubiad wrthol wedi mynd yn anghywir. Daliad digon syml ar ymyl y cylch.

Swydd Warwick 165 am wyth ar ôl 42 pelawd.

83 arall i ennill. Michael Rae yw’r batiwr newydd.

17:54

89 oddi ar naw pelawd yw’r nod i’r Saeson erbyn hyn.

Swydd Warwick 159 am saith ar ôl 41 pelawd.

17:50

Ar ôl 40 pelawd, Swydd Warwick 157 am saith.

Mae angen 91 yn rhagor arnyn nhw i ennill oddi ar ddeg pelawd.

17:44

WICED!

Burgess d Douthwaite b McIlroy 85

Fe wnaeth y batiwr daro’r bêl yn uchel i’r awyr, ac roedd y maeswr yn barod ar ymyl y cylch. Daliad digon syml. Ai dyna ddiwedd y gêm i’r ymwelwyr?

Swydd Warwick 149 am saith oddi ar 38.3 pelawd. 99 arall i ennill. 

Michael Booth yw’r batiwr newydd.

17:41

Ar ôl 38 pelawd, Swydd Warwick 145 am chwech. 

Mae angen 103 yn rhagor arnyn nhw i ennill, ac mae ganddyn nhw lygedyn o obaith tra bod Michael Burgess (81 heb fod allan) yn dal wrth y llain.

Ond mae’r gêm yn nwylo Morgannwg ar hyn o bryd.