Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

17:44

WICED!

Burgess d Douthwaite b McIlroy 85

Fe wnaeth y batiwr daro’r bêl yn uchel i’r awyr, ac roedd y maeswr yn barod ar ymyl y cylch. Daliad digon syml. Ai dyna ddiwedd y gêm i’r ymwelwyr?

Swydd Warwick 149 am saith oddi ar 38.3 pelawd. 99 arall i ennill. 

Michael Booth yw’r batiwr newydd.

17:41

Ar ôl 38 pelawd, Swydd Warwick 145 am chwech. 

Mae angen 103 yn rhagor arnyn nhw i ennill, ac mae ganddyn nhw lygedyn o obaith tra bod Michael Burgess (81 heb fod allan) yn dal wrth y llain.

Ond mae’r gêm yn nwylo Morgannwg ar hyn o bryd.

17:32

Yn y gêm gyn-derfynol arall, mae’n edrych yn debygol mai Gwlad yr Haf fydd yn mynd â hi.

Swydd Gaerlŷr 226 am bedair, ac mae angen 109 yn rhagor arnyn nhw oddi ar ddeuddeg pelawd.

17:19

Hanner canred i Michael Burgess gydag ergyd chwech oddi ar fowlio’r troellwr coes Colin Ingram, a’r belen ganlynol yn mynd am chwech hefyd.

A’r drydedd hefyd!

17:17

Ar ôl 4.4 pelawd â’i law dde, mae Ben Kellaway bellach yn bowlio â’i law chwith.

17:15

Mae Timm van der Gugten wedi bowlio’i ddeg pelawd. Dwy ohonyn nhw’n ddi-sgôr, dwy wiced am 22.

Swydd Warwick 94 am chwech ar ôl 31 pelawd. 154 yn rhagor i ennill.

17:10

Ar ôl 30 pelawd, Swydd Warwick 91 am chwech.

Mae angen 157 yn rhagor arnyn nhw i ennill, ond mae bowlwyr Morgannwg yn eu gwasgu nhw’n dynn.

17:04

Siom i ferched y Tân Cymreig, sydd wedi colli yn erbyn London Spirit yn rownd derfynol y Can Pelen.

16:53

Hanner ffordd drwy’r batiad, Swydd Warwick 76 am chwech.

Mae angen 172 yn rhagor arnyn nhw i ennill.

Roedd angen tipyn o berfformiad gan fowlwyr Morgannwg os oedden nhw am ennill y gêm hon, ac maen nhw wedi bod ar eu gorau hyd yn hyn.

16:46

Bron iawn 29 mlynedd i’r diwrnod (Awst 15, 1995), cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 86 gan Swydd Warwick yma yng Nghaerdydd yn Nhlws NatWest (y gystadleuaeth 60 pelawd).

Ydy Swydd Warwick yn wynebu tynged tebyg heddiw?

Maen nhw’n 70 am chwech ar ôl 23 pelawd, ac mae angen 178 yn rhagor arnyn nhw i ennill.