Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

14:33

Mae Dan Douthwaite yn mynd amdani!

Mae’r chwaraewr amryddawn newydd daro dwy ergyd enfawr oddi ar fowlio Olly Hannon-Dalby, ac mae Michael Booth yn cael yr un driniaeth ganddo fe yn y belawd olaf.

Hanner canred haeddiannol i’r batiwr, sy’n cyrraedd y garreg filltir gyda…. chwech!

14:28

WICED!

Gorvin wedi’i redeg allan (Yates) 11.

Jamie McIlroy yw’r batiwr olaf i mewn, ond Dan Douthwaite fydd yn wynebu’r belen nesaf. Anlwc i’r batiwr ben draw’r llain wrth i’r bêl daro llaw’r bowliwr cyn bwrw’r wiced wrth i’r tafliad ddod i mewn gan y maeswr.

Morgannwg 216 am naw ar ôl 48.2 pelawd.

14:22

Yn y gêm gyn-derfynol arall yn Taunton, mae Gwlad yr Haf wedi sgorio 334 am bedair yn eu 50 pelawd yn erbyn Swydd Gaerlŷr. 115 i Lewis Goldsworthy, 71 i James Rew a 57 i Andy Umeed. Dwy wiced i’r Cymro Roman Walker yng nghrys Swydd Gaerlŷr.

14:16

WICED!

Timm van der Gugten d Smith b Booth 26 

Aeth y batiwr am ergyd fawr i lawr i’r trydydd dyn, ond cafodd ei ddal oddi ar ymyl ucha’r bat. Fe wnaeth y maeswr yn arbennig o dda i ddal ei afael ar y bêl yn y pen draw.

Morgannwg 201 am wyth ar ôl 46 pelawd. Andy Gorvin yw’r batiwr newydd.

14:09

Mae’n ddiwrnod mawr i dîm merched y Tân Cymreig, sy’n chwarae yn rownd derfynol y Can Pelen yn Lord’s, gyda’r gêm yn dechrau am 2.15yp. Dilynwch bob pelen o’r gêm yn erbyn London Spirit.

13:48

Ar ôl 40 pelawd, Morgannwg 168 am saith. Dyma ddechrau’r trydydd cyfnod clatsio.

Byddai chwech y belawd o fan hyn yn mynd â nhw i 228. Ar y gyfradd bresennol, bydden nhw’n cyrraedd 210.

Saith y belawd = 238

Wyth y belawd = 248

Naw y belawd = 258

Deg y belawd = 268

13:46

WICED!

Root d Hannon-Dalby b Rae 46

Morgannwg 167 am saith wrth i Root ganfod y maeswr yn safle’r goes fain bell wrth ergydio oddi ar ei goesau.

Dyna’r batiwr cydnabyddedig olaf yn ôl yn y pafiliwn, wrth i Timm van der Gugten ymuno â Dan Douthwaite.

13:24

WICED!

Kellaway b Hannon-Dalby 23

Roedd y bowliwr wedi bod yn edrych yn beryglus heb gipio wiced. Ond mae e wedi dychwelyd i’r ymosod ac wedi torri’r bartneriaeth ddefnyddiol rhwng Ben Kellaway a Billy Root (38 heb fod allan).

Morgannwg 145 am chwech ar ôl 34.4 pelawd. Dan Douthwaite yw’r batiwr newydd.

13:17

Chwarae teg i Billy Root a Ben Kellaway. Maen nhw’n brwydro’n galed, ac wedi adeiladu partneriaeth o 50 erbyn hyn. Ond pa mor bell allan nhw fynd, tybed?

Morgannwg 141 am bump ym mhelawd rhif 34.

13:07

Ar ôl 30 pelawd, mae Morgannwg wedi cyrraedd 118 am bump.

Os dilynwn ni’r arfer o ddyblu’r sgôr ar yr adeg yma er mwyn darogan y sgôr terfynol, dylai’r sir Gymreig gyrraedd 236 erbyn diwedd eu batiad. Dw i’n ofni na fydd hynny’n ddigon, ac mae Morgannwg yn colli wicedi’n rhy aml hefyd.