Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

16:46

Bron iawn 29 mlynedd i’r diwrnod (Awst 15, 1995), cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 86 gan Swydd Warwick yma yng Nghaerdydd yn Nhlws NatWest (y gystadleuaeth 60 pelawd).

Ydy Swydd Warwick yn wynebu tynged tebyg heddiw?

Maen nhw’n 70 am chwech ar ôl 23 pelawd, ac mae angen 178 yn rhagor arnyn nhw i ennill.

16:35

WICED!

Smith d Smale b Douthwaite 1

Swydd Warwick 62 am chwech ar ôl 20.3 pelawd. Jake Lintott yw’r batiwr newydd.

Dyna’r wiced fawr i Forgannwg!

16:33

Ar ôl 20 pelawd, Swydd Warwick 62 am bump. Dau fatiwr cymharol newydd wrth y llain, ac maen nhw mewn sefyllfa debyg i Forgannwg erbyn hyn.

16:20

WICED!

Benjamin d Smale b Douthwaite 7

Chwip o ddaliad gan y wicedwr, wrth neidio’n uchel i’w ochr dde.

Swydd Warwick 57 am bump ar ôl 16.5 pelawd. Kai Smith yw’r batiwr newydd. Dyma’r dyn peryglus, ar ôl ei ganred yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn y gêm ddiwethaf.

Mae’r rhod yn troi…

16:16

CYFLE!

Roedd Morgannwg yn eitha’ sicr eu bod nhw wedi gwaredu Chris Benjamin – gyda daliad a stympiad! Ond cafodd y maeswyr rybudd gan y dyfarnwr Nigel Llong i dawelu…

16:14

Ar ôl 15 pelawd, Swydd Warwick 47 am bedair.

16:09

Mae Morgannwg wedi newid cyflymdra’r bowlwyr rywfaint, gydag Andy Gorvin a Dan Douthwaite bellach yn bowlio, wrth i Jamie McIlroy a Timm van der Gugten gael seibiant haeddiannol ar ôl cipio dwy wiced yr un.

15:55

WICED!

Rhodes b van der Gugten 4

Fe wnaeth y batiwr drio ergydio ar draws llinell y bêl.

Swydd Warwick 37 am bedair ar ôl 10.5 pelawd, a thro’r Saeson yw hi nawr i wynebu rhywfaint o bwysau. Chris Benjamin sy’n cerdded i’r llain.

15:48

WICED!

Shaikh d Tribe b McIlroy 8

Ergyd fach ysgafn oddi ar ei goesau at y maeswr yn sgwâr ar ochr y goes.

Swydd Warwick 37 am dair ar ôl 9.5 pelawd. Michael Burgess yw’r batiwr newydd.

15:38

Mae tîm menywod y Tân Cymreig wedi sgorio 115 am wyth yn eu gêm derfynol yn y Can Pelen yn Lord’s. Batiad London Spirit i ddod yn fuan.