Morgannwg v Swydd Warwick: Buddugoliaeth i’r sir Gymreig!

Mae Morgannwg ar eu ffordd i Trent Bridge ar Fedi 22

Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn herio Swydd Warwick yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 18) am le yn rownd derfynol Cwpan Undydd Metro Bank yn Trent Bridge, Nottingham fis nesaf.

Dim ond unwaith roedd y sir Gymreig wedi colli yn eu grŵp, gydag un arall o’r wyth gêm yn dod i ben heb ganlyniad yn sgil y glaw.

Fe wnaethon nhw orffen eu grŵp gyda buddugoliaeth o 62 rhediad dros Swydd Efrog, gan sicrhau eu lle yn y rownd gyn-derfynol heb orfod chwarae gêm ail gyfle.

Pe baen nhw’n curo Swydd Warwick, byddan nhw’n herio Swydd Gaerlŷr neu Wlad yr Haf yn y rownd derfynol ar Fedi 22.

Y timau

Mae gan Forgannwg nifer o chwaraewyr allan ag anafiadau, gan gynnwys y batiwr agoriadol Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Zain ul Hassan a Tom Norton, y wicedwyr Chris Cooke ac Alex Horton, a’r bowliwr cyflym James Harris.

Maen nhw wedi penderfynu peidio galw’r troellwr coes Mason Crane yn ôl o’r Can Pelen, lle mae e wedi bod yn chwarae i’r Tân Cymreig.

Mae Rob Yates a Hamza Shaikh yn dychwelyd i garfan yr ymwelwyr ar ôl bod yn chwarae i Lewod Lloegr.

‘Cyffro gwirioneddol’

“Mae yna gyffro gwirioneddol yn y garfan wrth i ni edrych ymlaen at gêm gyn-derfynol gartref ddydd Sul,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda, bydden ni wrth ein boddau’n gweld cefnogwyr Morgannwg allan yn eu heidiau.

“Uchafbwynt yr ymgyrch hyd yma yw’r llawenydd o weld gwahanol chwaraewyr yn camu ymlaen bob gêm i greu argraff wrth ennill.

“Mae’r chwaraewyr yn dod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’n brand er mwyn ennill a’r rolau o fewn hynny, tra ein bod ni’n teimlo fod gennym ni dîm cytbwys iawn.

“Dw i’n synhwyro dyfalbarhad braf gan y chwaraewyr i ryddhau eu holl sgiliau, gan fwynhau ac achub ar y cyfle hwn mae’r chwaraewyr yn ei haeddu’n llwyr.

“Rydyn ni’n gwybod fel tîm ein bod ni’n tyfu bob gêm gyda’n gilydd, a dw i’n sicr yn teimlo bod gwell i ddod eto.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Warwick: T Ali, E Barnard (capten), C Benjamin, M Booth, M Burgess, O Hannon-Dalby, J Lintott, Z Malik, C Miles, M Rae, W Rhodes, H Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates

12:12

CYFLE!

Mae Rob Yates newydd brofi ei fod e’n feidrolyn! Ingram wedi’i ollwng yn y slip ar 18. All Morgannwg fanteisio ar hynny nawr?

12:08

Dyw bowlwyr ddim fel arfer yn bowlio’u deg pelawd yn syth drwodd, ond mae achos cryf i ddadlau y dylai Barnard wneud hynny.

Mae wedi bowlio wyth pelawd, dwy ohonyn nhw’n ddi-sgôr, ac wedi cipio pedair wiced am 26. Mae gan ei dîm un droed yn y rownd derfynol eisoes, ac mae’n rhaid dweud mai Ingram a Root yw gobaith olaf Morgannwg o adeiladu sgôr swmpus os ydyn nhw am gystadlu yn y gêm hon.

12:04

WICED!

Smale d Yates b Barnard 13

Y cyfuniad peryglus sydd wedi tanio i Swydd Warwick unwaith eto, a dyw Morgannwg ddim wedi dysgu’r wers. Pedwaredd wiced i Barnard.

Mae’r sir Gymreig yn 44 am bedair o fewn pymtheg pelawd, wrth i Billy Root ymuno ag Ingram.

11:44

Ar ôl 10 pelawd, ac ar ddiwedd y cyfnod clatsio cyntaf, mae Morgannwg yn 28 am dair.

Yr ail gyfnod clatsio i ddod ar unwaith.

11:39

WICED!

Northeast cofw b Barnard 6

Mae Morgannwg wedi colli eu trydedd wiced o fewn naw pelawd, ac maen nhw’n ei chael hi’n anodd sgorio ar y llain ar hyn o bryd.

Mae gan Colin Ingram gyfrifoldeb enfawr nawr wrth gamu i’r llain yn lle Sam Northeast. 

Morgannwg 25 am dair.

11:26

WICED!

Carlson d Yates b Barnard 8

Mae sefyllfa Morgannwg wedi mynd o ddrwg i waeth, gyda Kiran Carlson wedi colli ei wiced yn yr un modd â Tribe. Gwobr haeddiannol arall i’r bowliwr, ond mae’r sir Gymreig dan bwysau eisoes.

Morgannwg 15 am ddwy yn y seithfed pelawd, wrth i Sam Northeast ddod i’r llain i ymuno â Smale.

11:16

WICED!

Tribe d Yates b Barnard 2.

Mae Ed Barnard wedi cael ei haeddiant, wrth i Asa Tribe daro’r bêl yn ysgafn at Rob Yates yn y slip. Mae Barnard ac Olly Hannon-Dalby wedi bowlio’n dynn hyd yma.

Morgannwg saith am un yn y bumed pelawd, wrth i’r capten Kiran Carlson gamu i’r llain.

Mae hi wastad yn risg gofyn i chwaraewr ifanc fel Tribe agor y batio. Bydd rhaid i Forgannwg gyfaddef na weithiodd yr arbrawf heddiw.

11:05

Os ydych chi eisiau dilyn y gêm gyn-derfynol arall rhwng Gwlad yr Haf a Swydd Gaerlŷr, ewch i’r sgorfwrdd hwnnw.

11:01

Tywydd criced yng Nghaerdydd ☀

10:59

Mae’r dyfarnwyr Nigel Llong a Neil Pratt ar y cae.

Will Smale ac Asa Tribe sy’n agor y batio i Forgannwg.

Dyma ni!