Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

16:41

Mae’n rhaid dechrau ystyried y posibilrwydd y gallai Morgannwg golli’r ornest hon o sefyllfa le ddylen nhw fod wedi ei hennill hi.

Maen nhw wedi colli saith wiced mewn llai na 21 pelawd, a Billy Root yw’r batiwr cydnabyddedig olaf bellach.

16:36

WICED!

Dan Douthwaite allan, wedi’i ddal gan Tom Haines yn y slip oddi ar fowlio Lenham.

Morgannwg 143 am saith, ond mae’r targed DLS bellach wedi codi i 160. Yn ffodus iawn i Forgannwg, mae’n ymddangos bod y glaw wedi cilio am y tro, er ei bod hi’n dywyll o hyd.

Timm van der Gugten sydd wrth y llain.

16:28

WICED!

Ben Kellaway wedi’i ddal gan Tom Clark yn y cyfar oddi ar fowlio’r troellwr coes Archie Lenham.

Morgannwg 141 am chwech ym mhelawd rhif 29, ac maen nhw un rhediad yn unig ar y blaen i DLS bellach.

Dan Douthwaite yw’r batiwr newydd.

16:20

Mae’n dechrau bwrw nawr, ond yn ysgafn. Gawn ni weld beth fydd yn digwydd, ond mae’r chwaraewyr am aros ar y cae am y tro.

Ar hyn o bryd, mae Morgannwg ar y blaen i DLS.

16:13

Hanner ffordd drwy’r pelawdau.

Morgannwg 122 am bump, dri rhediad ar y blaen i sgôr gofynnol DLS. Mae’n dal i fod yn dywyll, ond mae’r glaw wedi cadw draw hyd yn hyn.

15:53

WICED!

Colin Ingram allan, wedi’i ddal gan Tom Haines oddi ar fowlio Bertie Foreman am unarddeg.

Morgannwg 107 am bump oddi ar ugain pelawd, ar ôl bod yn 80 am un.

201 yw’r nod, ac mae digon o amser a phelawdau ar ôl, ond bydd y wicedi’n bryder iddyn nhw nawr.

Billy Root a Ben Kellaway sydd wrth y llain.

15:43

Mae Morgannwg bellach ar y blaen i DLS, ond mae’r glaw wedi cilio am y tro.

15:34

Dim hatric, ond mae Morgannwg mewn rhywfaint o drafferth nawr, ac yn gweddïo bod y glaw yn cadw draw…

83 am bedair ar ôl pymtheg pelawd – mae angen iddyn nhw fod ar 91, yn ôl DLS.

15:33

WICED!

Dwy mewn dwy i Ibrahim. 

Kiran Carlson wedi’i fowlio.

Morgannwg 82 am bedair. Mae DLS wedi codi i 90, ac felly mae Morgannwg ar ei hôl hi bellach.

Pelen yr hatric i ddod…

15:32

WICED!

Tom Bevan wedi’i fowlio gan Dan Ibrahim.

Morgannwg 82 am dair yn y bymthegfed pelawd, ac mae’r targed DLS bellach wedi codi i 71, felly maen nhw’n iawn am y tro ond gallai hynny newid dipyn pe bai rhagor o wicedi’n cwympo cyn i’r glaw ddod.