Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

13:07

WICED!

Ibrahim wedi’i ddal gan Tom Bevan yn y slip. Wiced i Ben Kellaway â’i law chwith.

Sussex 130 am saith.

Archie Lenham wrth y llain – y drydedd genhedlaeth yn y teulu i gynrychioli’r sir, ar ôl ei dad Neil (1984-97) a’i dad-cu Les (1956-70).

12:56

Timm van der Gugten wedi gorffen ei ddeg pelawd.

Pump ohonyn nhw’n ddi-sgôr, tair wiced am 23.

Sussex 111 am chwech ar ôl 30 pelawd.

12:44

WICED!

Lion-Cachet allan, wedi’i ddal gan Smale oddi ar fowlio van der Gugten.

Siarcod Sussex mewn dyfroedd dyfnion. 110 am chwech o fewn 28 pelawd.

12:40

WICED!

Oli Carter wedi’i ddal gan Smale oddi ar fowlio Jamie McIlroy.

Sussex 110 am bump, ac maen nhw wedi colli pedair wiced am 15 rhediad.

12:35

Ffaith ddiddorol gan dîm sylwebu BBC Cymru.

Mae Zach Lion-Cachet, batiwr newydd Sussex, yn fab i Sarah Loosemore, chwaraewraig tenis i Gymru a Phrydain, sy’n hanu o Gaerdydd.

12:32

WICED!

Camergyd gan Charlie Tear, a daliad syml i Timm van der Gugten oddi ar fowlio Douthwaite.

Sussex 101 am bedair.

Hanner y pelawdau wedi’u bowlio.

12:25

WICED!

Rogers allan am 35, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan Timm van der Gugten.

Sussex 97 am dair o fewn 24 pelawd.

12:17

WICED!

Tom Haines allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Smale oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Sussex 95 am ddwy.

12:12

Ar ôl 20 pelawd, Sussex 86 am un. 

Mae Tom Haines a Henry Rogers bellach wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant.

11:53

Ar ôl 15 pelawd, Sussex 58 am un.

Tom Haines 32 heb fod allan.