Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

15:33

WICED!

Dwy mewn dwy i Ibrahim. 

Kiran Carlson wedi’i fowlio.

Morgannwg 82 am bedair. Mae DLS wedi codi i 90, ac felly mae Morgannwg ar ei hôl hi bellach.

Pelen yr hatric i ddod…

15:32

WICED!

Tom Bevan wedi’i fowlio gan Dan Ibrahim.

Morgannwg 82 am dair yn y bymthegfed pelawd, ac mae’r targed DLS bellach wedi codi i 71, felly maen nhw’n iawn am y tro ond gallai hynny newid dipyn pe bai rhagor o wicedi’n cwympo cyn i’r glaw ddod.

15:28

WICED!

Eddie Byrom wedi’i ddal gan y wicedwr Charlie Tear oddi ar fowlio Tom Clark am 51.

Morgannwg 80 am ddwy o fewn 14 pelawd.

15:22

Hanner canred i Eddie Byrom i’w ychwanegu at ei ganred yn erbyn Swydd Nottingham.

Morgannwg 77 am un ar ôl deuddeg pelawd.

15:14

WICED!

Will Smale wedi’i ddal gan Oli Carter oddi ar fowlio Jack Campbell am ddeg. 

Daeth y bêl oddi ar ymyl y bat wrth i’r batiwr chwarae ergyd amddiffynnol.

Morgannwg 65 am un wrth i Tom Bevan ddod i’r llain.

15:13

Ar ôl 10 pelawd, Morgannwg 65 heb golli wiced.

Roedd Sussex yn 41 am un ar yr un adeg yn eu batiad nhw, felly Morgannwg yn sicr ar y droed flaen nawr bod y drefn DLS yn dod i rym hefyd.

14:50

Mae’n bygwth glaw o hyd, ond mae’n weddol sych am y tro er yn dywyll iawn.

Morgannwg wedi dechrau eu batiad yn dda, 23 heb golli wiced o fewn pum pelawd.

14:41

Mae’r glaw ar ei ffordd yma yng Nghastell-nedd, a’r seddi lletygarwch awyr agored yn wag bellach.

Bydd y drefn DLS, sy’n addasu’r sgôr o ganlyniad i’r tywydd, yn dod i rym ar ôl deg pelawd. Dim ond dwy belawd sydd wedi’u bowlio hyd yn hyn.

14:34

Mae batiad Morgannwg ar fin dechrau, gyda Will Smale ac Eddie Byrom yn agor y batio. Fe gofiwch chi eu bod nhw wedi adeiladu partneriaeth o 103 yn erbyn Swydd Nottingham yma ddydd Mercher.

Mae angen 201 arnyn nhw i ennill ac i gynnal eu record ddi-guro yn y gystadleuaeth. Ond mae’r awyr yn dywyll iawn erbyn hyn, ond mae’r glaw yn cadw draw am y tro.

14:07

WICED!

Lenham wedi’i ddal gan Ingram oddi ar fowlio McIlroy am 31.

Sussex 200 i gyd allan oddi ar 47.2 pelawd.

Perfformiad arbennig gan fowlwyr Morgannwg.

201 fydd eu nod.