Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

15:53

WICED!

Colin Ingram allan, wedi’i ddal gan Tom Haines oddi ar fowlio Bertie Foreman am unarddeg.

Morgannwg 107 am bump oddi ar ugain pelawd, ar ôl bod yn 80 am un.

201 yw’r nod, ac mae digon o amser a phelawdau ar ôl, ond bydd y wicedi’n bryder iddyn nhw nawr.

Billy Root a Ben Kellaway sydd wrth y llain.

15:43

Mae Morgannwg bellach ar y blaen i DLS, ond mae’r glaw wedi cilio am y tro.

15:34

Dim hatric, ond mae Morgannwg mewn rhywfaint o drafferth nawr, ac yn gweddïo bod y glaw yn cadw draw…

83 am bedair ar ôl pymtheg pelawd – mae angen iddyn nhw fod ar 91, yn ôl DLS.

15:33

WICED!

Dwy mewn dwy i Ibrahim. 

Kiran Carlson wedi’i fowlio.

Morgannwg 82 am bedair. Mae DLS wedi codi i 90, ac felly mae Morgannwg ar ei hôl hi bellach.

Pelen yr hatric i ddod…

15:32

WICED!

Tom Bevan wedi’i fowlio gan Dan Ibrahim.

Morgannwg 82 am dair yn y bymthegfed pelawd, ac mae’r targed DLS bellach wedi codi i 71, felly maen nhw’n iawn am y tro ond gallai hynny newid dipyn pe bai rhagor o wicedi’n cwympo cyn i’r glaw ddod.

15:28

WICED!

Eddie Byrom wedi’i ddal gan y wicedwr Charlie Tear oddi ar fowlio Tom Clark am 51.

Morgannwg 80 am ddwy o fewn 14 pelawd.

15:22

Hanner canred i Eddie Byrom i’w ychwanegu at ei ganred yn erbyn Swydd Nottingham.

Morgannwg 77 am un ar ôl deuddeg pelawd.

15:14

WICED!

Will Smale wedi’i ddal gan Oli Carter oddi ar fowlio Jack Campbell am ddeg. 

Daeth y bêl oddi ar ymyl y bat wrth i’r batiwr chwarae ergyd amddiffynnol.

Morgannwg 65 am un wrth i Tom Bevan ddod i’r llain.

15:13

Ar ôl 10 pelawd, Morgannwg 65 heb golli wiced.

Roedd Sussex yn 41 am un ar yr un adeg yn eu batiad nhw, felly Morgannwg yn sicr ar y droed flaen nawr bod y drefn DLS yn dod i rym hefyd.

14:50

Mae’n bygwth glaw o hyd, ond mae’n weddol sych am y tro er yn dywyll iawn.

Morgannwg wedi dechrau eu batiad yn dda, 23 heb golli wiced o fewn pum pelawd.