Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

17:35

Tri i ennill….

17:32

194 am naw ar ôl 46 pelawd.

Dan Ibrahim wedi cipio tair wiced am 34 yn ei ddeg pelawd.

Saith sydd ei angen ar Forgannwg i ennill…

17:27

Archie Lenham wedi gorffen ei ddeg pelawd. Tair wiced am 29.

Morgannwg 192 am naw ar ôl 45 pelawd.

Naw i ennill….

17:24

Morgannwg 190 am naw ar ôl 44 pelawd.

Unarddeg – neu un wiced – i ennill…

17:18

WICED!

Timm van der Gugten wedi cael ei ddal ar y ffin gan Lion-Cachet wrth fynd am ergyd fawr oddi ar fowlio Lenham.

Morgannwg 187 am naw, a Jamie McIlroy yw’r batiwr olaf.

17:12

WICED!

Y wiced fawr. Billy Root allan am 48, wedi’i ddal gan y wicedwr Tear oddi ar fowlio Ibrahim.

Morgannwg 181 am wyth, a Sussex ar y droed flaen unwaith eto.

Andy Gorvin sy’n ymuno â Timm van der Gugten yn y canol.

17:08

Ar ôl 40 pelawd, Morgannwg 178 am saith.

Fe fu sawl llanw a thrai yn ystod y dydd, ond mae’r sir Gymreig ar y droed flaen unwaith eto.

16:44

“Rooooooooooooot!”

Mae Billy Root newydd daro ergyd chwech enfawr i gyfeiriad y babell letygarwch. Tarodd y bêl y to cyn bownsio dros y top.

Morgannwg 151 am saith ym mhelawd rhif 34.

50 i ennill. Digon o belawdau i ddod, ond mae’r wicedi’n bryder.

16:41

Mae’n rhaid dechrau ystyried y posibilrwydd y gallai Morgannwg golli’r ornest hon o sefyllfa le ddylen nhw fod wedi ei hennill hi.

Maen nhw wedi colli saith wiced mewn llai na 21 pelawd, a Billy Root yw’r batiwr cydnabyddedig olaf bellach.

16:36

WICED!

Dan Douthwaite allan, wedi’i ddal gan Tom Haines yn y slip oddi ar fowlio Lenham.

Morgannwg 143 am saith, ond mae’r targed DLS bellach wedi codi i 160. Yn ffodus iawn i Forgannwg, mae’n ymddangos bod y glaw wedi cilio am y tro, er ei bod hi’n dywyll o hyd.

Timm van der Gugten sydd wrth y llain.