Morgannwg v Sussex: Y sir Gymreig yn ennill gêm gyffrous ar y Gnoll

Mae Morgannwg yn ddi-guro hyd yma yn nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio parhau’n ddi-guro yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Undydd Metro Bank, wrth groesawu Sussex i Gastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 2).

Tarodd Eddie Byrom 123 a Colin Ingram 103 mewn partneriaeth o 170 wrth guro Swydd Nottingham o wyth wiced ar y Gnoll ddydd Mercher (Gorffennaf 31).

Byddai buddugoliaeth eto heddiw yn golygu eu bod nhw bron iawn yn sicr o’u lle yn y rowndiau nesaf.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Sussex: J Campbell, O Carter, T Clark (capten), H Crocombe, B Foreman, T Haines, S Hunt, D Ibrahim, A Karvelas, A Lenham, Z Lion-Cachet, H Rogers, C Tear

15:14

WICED!

Will Smale wedi’i ddal gan Oli Carter oddi ar fowlio Jack Campbell am ddeg. 

Daeth y bêl oddi ar ymyl y bat wrth i’r batiwr chwarae ergyd amddiffynnol.

Morgannwg 65 am un wrth i Tom Bevan ddod i’r llain.

15:13

Ar ôl 10 pelawd, Morgannwg 65 heb golli wiced.

Roedd Sussex yn 41 am un ar yr un adeg yn eu batiad nhw, felly Morgannwg yn sicr ar y droed flaen nawr bod y drefn DLS yn dod i rym hefyd.

14:50

Mae’n bygwth glaw o hyd, ond mae’n weddol sych am y tro er yn dywyll iawn.

Morgannwg wedi dechrau eu batiad yn dda, 23 heb golli wiced o fewn pum pelawd.

14:41

Mae’r glaw ar ei ffordd yma yng Nghastell-nedd, a’r seddi lletygarwch awyr agored yn wag bellach.

Bydd y drefn DLS, sy’n addasu’r sgôr o ganlyniad i’r tywydd, yn dod i rym ar ôl deg pelawd. Dim ond dwy belawd sydd wedi’u bowlio hyd yn hyn.

14:34

Mae batiad Morgannwg ar fin dechrau, gyda Will Smale ac Eddie Byrom yn agor y batio. Fe gofiwch chi eu bod nhw wedi adeiladu partneriaeth o 103 yn erbyn Swydd Nottingham yma ddydd Mercher.

Mae angen 201 arnyn nhw i ennill ac i gynnal eu record ddi-guro yn y gystadleuaeth. Ond mae’r awyr yn dywyll iawn erbyn hyn, ond mae’r glaw yn cadw draw am y tro.

14:07

WICED!

Lenham wedi’i ddal gan Ingram oddi ar fowlio McIlroy am 31.

Sussex 200 i gyd allan oddi ar 47.2 pelawd.

Perfformiad arbennig gan fowlwyr Morgannwg.

201 fydd eu nod.

13:58

WICED!

Colin Ingram wedi dal Sean Hunt oddi ar fowlio Douthwaite, sydd wedi cipio’i bedwaredd wiced.

Sussex 193 am naw o fewn 46 pelawd. A fyddan nhw’n llwyddo i bara’r 50 pelawd, tybed?

Jack Campbell yw’r batiwr olaf.

13:47

WICED!

Foreman wedi’i fowlio gan Douthwaite am 32.

Roedd Foreman a Lenham newydd gyrraedd eu partneriaeth o hanner cant.

Sussex 181 am wyth ym mhelawd rhif 44.

13:34

Ar ôl 40 pelawd, Sussex 168 am saith.

Mae Bertie Foreman ac Archie Lenham wedi llwyddo i sefydlogi’r batiad rywfaint ar ôl y chwalfa. Maen nhw wedi ychwanegu 30 at y sgôr.

13:07

WICED!

Ibrahim wedi’i ddal gan Tom Bevan yn y slip. Wiced i Ben Kellaway â’i law chwith.

Sussex 130 am saith.

Archie Lenham wrth y llain – y drydedd genhedlaeth yn y teulu i gynrychioli’r sir, ar ôl ei dad Neil (1984-97) a’i dad-cu Les (1956-70).