Morgannwg v Swydd Nottingham: Buddugoliaeth arall i Forgannwg!

Y gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd yng Nghastell-nedd yng Nghwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Ar ôl sicrhau dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Undydd Metro Bank, mae tîm criced Morgannwg wedi chwarae’r gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).

Bulb nhw’n herio Swydd Nottingham heddiw, cyn croesawu Sussex i’r cae ddydd Gwener (Awst 2).

Ar ôl trechu Swydd Gaerloyw o 27 rhediad yn eu gêm gyntaf, aeth Morgannwg i’r Oval a churo Surrey o saith wiced dros y penwythnos.

Byddai dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon yn eu rhoi nhw mewn lle cryf iawn i gymhwyso o’r grŵp a sicrhau eu lle yn y rowndiau olaf.

Mae’r tîm ar frig pob grŵp yn mynd yn syth i’r rownd gyn-derfynol, tra bo’r ail a’r trydydd yn mynd i gêm ail gyfle am le yn y rownd gyn-derfynol.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y ddwy gêm nesaf yng Nghastell-nedd yr wythnos hon,” medd Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Mae lleoliad mae ein chwaraewyr yn ei adnabod yn dda yn sicr o ddarparu cyfle gwych i ni arddangos sgiliau’r garfan a mwynhau croeso lleol yn fawr iawn.

“Rydyn ni wedi dewis carfan fawr ar gyfer y ddwy gêm, sy’n galluogi llawer o opsiynau i ddod â chydbwysedd i’r tîm ar y cae.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddiddanu ar y cae ac ymgysylltu â’r dorf leol fydd, gobeithio, yn heidio draw i gefnogi tîm Morgannwg.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Nottingham: F Ahmed, H Hameed (capten), J Hayes, J Haynes, B Hutton, L James, S King, R Lord, T Loten, F McCann, M Montgomery, T Moores, L Patterson-White, T Pettman, B Slater

14:28

DIWEDD Y BATIAD

Swydd Nottingham 274 am naw. Ond a fydd hynny’n ddigon? Gawn ni weld ymhen hanner awr!

14:19

WICED!

Daliad yn sgwâr gan Gorvin i waredu Brett Hutton oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Swydd Nottingham 258 am naw ym mhelawd rhif 49.

14:13

PUMED WICED I ANDY GORVIN!

Ergyd syth i lawr corn gwddf Tom Bevan gan Liam Patterson-White.

Swydd Nottingham 250 am wyth ym mhelawd rhif 48.

Y bowliwr yn gorffen ei ddeg pelawd gyda phum wiced am 56.

14:04

WICED!

Lyndon James allan, wedi’i ddal gan Kellaway oddi ar fowlio Andy Gorvin. Ei bedwaredd wiced.

Swydd Nottingham 237 am saith ym mhelawd rhif 46.

13:57

WICED!

Haseeb Hameed allan am 89. Tarodd e’r bêl yn uchel at Tom Bevan. Wiced i Gorvin.

Swydd Nottingham 219 am chwech ar ôl 44 pelawd.

13:47

Ar ôl 40 pelawd, Swydd Nottingham 193 am bump. 

Y capten Hameed heb fod allan ar 81.

13:35

WICED!

Tom Moores allan am 37, wedi’i ddal yn gampus gan y capten Kiran Carlson oddi ar fowlio Andy Gorvin.

Swydd Nottingham 179 am bump ar ôl 38 pelawd.

Morgannwg ar y droed flaen yn yr ornest.

13:03

Ar ôl 30 pelawd, Swydd Nottingham 127 am bedair.

Dyblwch hynny, ac mae’r ymwelwyr yn edrych ar gyfanswm o 254. Ar gae bach, mae’n annhebygol y bydd hynny’n ddigon.

12:57

Hanner canred i Haseeb Hameed, capten Swydd Nottingham.

Ben Kellaway sy’n bowlio ar hyn o bryd, ac mae’n bowlio â’i ddwy law. Rhagor am hynny ar golwg+.

12:51

WICED!

Matt Montgomery wedi’i ddal gan Smale oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Swydd Nottingham 111 am bedair ym mhelawd rhif 28.