Ar ôl sicrhau dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Undydd Metro Bank, mae tîm criced Morgannwg wedi chwarae’r gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).
Bulb nhw’n herio Swydd Nottingham heddiw, cyn croesawu Sussex i’r cae ddydd Gwener (Awst 2).
Ar ôl trechu Swydd Gaerloyw o 27 rhediad yn eu gêm gyntaf, aeth Morgannwg i’r Oval a churo Surrey o saith wiced dros y penwythnos.
Byddai dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon yn eu rhoi nhw mewn lle cryf iawn i gymhwyso o’r grŵp a sicrhau eu lle yn y rowndiau olaf.
Mae’r tîm ar frig pob grŵp yn mynd yn syth i’r rownd gyn-derfynol, tra bo’r ail a’r trydydd yn mynd i gêm ail gyfle am le yn y rownd gyn-derfynol.
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y ddwy gêm nesaf yng Nghastell-nedd yr wythnos hon,” medd Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.
“Mae lleoliad mae ein chwaraewyr yn ei adnabod yn dda yn sicr o ddarparu cyfle gwych i ni arddangos sgiliau’r garfan a mwynhau croeso lleol yn fawr iawn.
“Rydyn ni wedi dewis carfan fawr ar gyfer y ddwy gêm, sy’n galluogi llawer o opsiynau i ddod â chydbwysedd i’r tîm ar y cae.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddiddanu ar y cae ac ymgysylltu â’r dorf leol fydd, gobeithio, yn heidio draw i gefnogi tîm Morgannwg.”
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten
Carfan Swydd Nottingham: F Ahmed, H Hameed (capten), J Hayes, J Haynes, B Hutton, L James, S King, R Lord, T Loten, F McCann, M Montgomery, T Moores, L Patterson-White, T Pettman, B Slater