Morgannwg v Swydd Nottingham: Buddugoliaeth arall i Forgannwg!

Y gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd yng Nghastell-nedd yng Nghwpan Undydd Metro Bank

Sgorfwrdd

Ar ôl sicrhau dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm agoriadol yng Nghwpan Undydd Metro Bank, mae tîm criced Morgannwg wedi chwarae’r gyntaf o ddwy gêm 50 pelawd ar gae’r Gnoll yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).

Bulb nhw’n herio Swydd Nottingham heddiw, cyn croesawu Sussex i’r cae ddydd Gwener (Awst 2).

Ar ôl trechu Swydd Gaerloyw o 27 rhediad yn eu gêm gyntaf, aeth Morgannwg i’r Oval a churo Surrey o saith wiced dros y penwythnos.

Byddai dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon yn eu rhoi nhw mewn lle cryf iawn i gymhwyso o’r grŵp a sicrhau eu lle yn y rowndiau olaf.

Mae’r tîm ar frig pob grŵp yn mynd yn syth i’r rownd gyn-derfynol, tra bo’r ail a’r trydydd yn mynd i gêm ail gyfle am le yn y rownd gyn-derfynol.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y ddwy gêm nesaf yng Nghastell-nedd yr wythnos hon,” medd Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Mae lleoliad mae ein chwaraewyr yn ei adnabod yn dda yn sicr o ddarparu cyfle gwych i ni arddangos sgiliau’r garfan a mwynhau croeso lleol yn fawr iawn.

“Rydyn ni wedi dewis carfan fawr ar gyfer y ddwy gêm, sy’n galluogi llawer o opsiynau i ddod â chydbwysedd i’r tîm ar y cae.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddiddanu ar y cae ac ymgysylltu â’r dorf leol fydd, gobeithio, yn heidio draw i gefnogi tîm Morgannwg.”

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten

Carfan Swydd Nottingham: F Ahmed, H Hameed (capten), J Hayes, J Haynes, B Hutton, L James, S King, R Lord, T Loten, F McCann, M Montgomery, T Moores, L Patterson-White, T Pettman, B Slater

17:19

Canred i Eddie Byrom oddi ar 105 o belenni.

Morgannwg 208 am ddwy ym mhelawd rhif 37.

67 i ennill.

17:11

Hanner canred i Colin Ingram oddi ar 56 pelen.

Morgannwg 198 am ddwy ym mhelawd rhif 34.

16:59

Ar ôl 30 pelawd, mae Morgannwg yn 165 am ddwy.

275 yw’r nod.

16:38

HANNER FFORDD

Morgannwg 141 am ddwy.

275 yw’r nod i guro Swydd Nottingham.

16:20

Ar ôl 20 pelawd, Morgannwg 122 am ddwy.

16:09

WICED!

Carlson allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Tom Moores. Wiced i James.

Morgannwg 108 am ddwy.

16:01

WICED!

Will Smale allan, wedi’i ddal gan Lyndon James oddi ar fowlio Liam Patterson-White.

Morgannwg 103 am un. Kiran Carlson wrth y llain.

15:59

Morgannwg 99 heb golli wiced ar ôl 15 pelawd.

15:55

Mae Eddie Byrom wedi cyrraedd ei hanner canred.

15:47

Mae amwysedd ynghylch y sgôr ar hyn o bryd, ond dydy Morgannwg ddim wedi colli wiced eto.

Y deuddegfed pelawd sy’n cael ei bowlio.